Cyhoeddwyd 30/10/2023
Mae Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru (AHA) yn agored i wyddonwyr gofal iechyd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP) a’r rhai sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw ledled Cymru. Cyhoeddwyd enillwyr y gwobrau mewn seremoni ginio ddydd Gwener 20fed o Hydref yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Roeddem yn falch iawn o noddi dwy wobr yn y digwyddiad. Enillwyd y wobr gyntaf, am 'Weithio ar draws ffiniau', gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am 'Newid amgylcheddau ystafell ddosbarth i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc'.
Dywedodd y beirniaid fod “Y cynnig buddugol wedi dylanwadu’n unigryw ar ymddygiad iach cenedlaethau’r dyfodol, gan gynnig manteision i athrawon, plant, eu rhieni, gofalwyr a’r gwasanaeth iechyd.”
Mae ein gwerthoedd yn mynd ati i hyrwyddo pwysigrwydd dulliau aml-broffesiynol a thraws-ddisgyblaethol felly yn teimlo'n angerddol dros gefnogi'r wobr hon.
Yr ail wobr a noddwyd gennym oedd 'Cyflawniad rhagorol gan AHP neu Brentis, Gweithiwr Cymorth, Cynorthwyydd neu Gydymaith Gwyddor Gofal Iechyd'. Enillwyd y wobr hon gan Sarah Powell-Jones, Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg a Maethegydd Cofrestredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Danielle Allan, Swyddog Gweinyddol a Chymorth Prosiect yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gweithlu hwn mewn AHP a gwasanaethau Gwyddor Gofal Iechyd ar draws GIG Cymru.
Dywedodd Dr Sarah Bant, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid Gweithlu, Gwyddor Gofal Iechyd yn AaGIC, “Rydym wrth ein bodd i allu noddi'r ddwy wobr hyn gan eu bod yn cyd-fynd yn agos â'n gwerthoedd fel sefydliad. Mae’n wych cydnabod llwyddiannau ac ymroddiad o’r fath.”