30/4/2025
Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyhoeddi estyniad o dair blynedd i’w rhaglen ddysgu lwyddiannus sy’n cefnogi fferyllwyr yng Nghymru i ddarparu’r Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol Fferyllol (PIPS) yn hyderus.
Lansiwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2024 i arfogi fferyllwyr â'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder hanfodol sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol i gleifion. Mae’r rhaglen yn cynnig gweithdai ymarferol, clinigol eu ffocws ledled Cymru. Wedi’i dylunio gan ragnodwyr fferyllol profiadol a meddygon teulu, mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar gyflyrau sy’n gyffredin mewn fferyllfa gymunedol, ac yn cynnwys astudiaethau achos, gweithgareddau grŵp a sesiynau cwestiwn ac ateb gydag arbenigwyr.
Mae’r estyniad yn golygu y bydd y rhaglen yn parhau i redeg tan o leiaf 2028, gan helpu i wreiddio gwasanaethau rhagnodi o ansawdd uchel ledled Cymru.
Dywedodd Margaret Allan, Deon Fferylliaeth, AaGIC:
Rydym yn falch o allu adeiladu ar ein cydweithrediad ag RPS drwy barhau â Chyfres Rhagnodwyr Annibynnol AaGIC/ RPS sydd wedi’i hanelu at Fferyllwyr sydd wedi’u hachredu i ddarparu’r Gwasanaeth Rhagnodi Fferylliaeth Annibynnol (PIPS) yng Nghymru.
Mae adborth o’r rhaglen yn 2024/25 wedi bod yn hynod gadarnhaol ac mae llawer o gyfranogwyr wedi nodi cynnydd mewn gwybodaeth, sgiliau a hyder wrth gefnogi cleifion ar ôl mynychu digwyddiad.
Rydym yn edrych ymlaen at gynnig digwyddiadau pellach i gefnogi PIPS gyda chynlluniau i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael a chynnig mwy o ddigwyddiadau lleol i wella mynediad cyfartal i ddarpariaeth PIPS ledled Cymru.
Dywedodd Elen Jones, Cyfarwyddwr RPS ar gyfer Cymru a Lloegr:
“Rydym yn falch iawn i barhau ac adeiladu ar y cydweithio hwn gydag AaGIC wrth i ni gychwyn ar daith 3 blynedd newydd i rymuso fferyllwyr ledled Cymru ymhellach i ddarparu gwasanaethau rhagnodi o ansawdd uchel i’n cymunedau. Mae’r bartneriaeth estynedig hon yn adeiladu ar lwyddiant gwaith y llynedd ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad parhaus i ddatblygu rôl fferyllwyr sy’n rhagnodi
“Rwy’n arbennig o falch o gydnabod cyfraniad amhrisiadwy fferyllwyr sy’n rhagnodi unwaith eto yng Nghymru, y mae eu harbenigedd a’u hadborth wedi bod yn allweddol wrth lunio cynnwys y rhaglen hon.Gyda ffocws parhaus ar gyflyrau cyffredin a mân anhwylderau, mae’r rhaglen hon yn mynd i’r afael â’r heriau dyddiol a wynebir gan fferyllwyr yn ymarferol. Drwy roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i fferyllwyr i drin cyflyrau penodol fel rhagnodwyr, rydym nid yn unig yn gwella gofal cleifion ond hefyd yn atgyfnerthu rôl fferyllwyr fel aelodau hanfodol a dibynadwy o’r tîm gofal iechyd."