Cyhoeddedig: 20 Ionawr 2025
Mae Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol GIG Cymru bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer y bedwaredd garfan o hyfforddeion rheoli (2025/27). Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle gyrfa unigryw a byddwn yn chwilio am arweinwyr uchelgeisiol a all yrru rhagoriaeth trwy feddwl creadigol ac arloesol i wella'r profiad a'r iechyd i bobl Cymru.
Mae'r rhaglen ddwy flynedd, seiliedig ar waith wedi'i chynllunio ar gyfer darpar arweinwyr GIG Cymru sydd am ddylanwadu a hyrwyddo newid i wella gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd hyfforddeion yn cwblhau MSc mewn Arweinyddiaeth Iechyd Cymhwysol ac yn elwa o ddysgu ymarferol, cynllun mentora a hyfforddiant anghlinigol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau ym maes rheoli ac arweinyddiaeth dosturiol.
Drwy gydol y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn ymgymryd â lleoliadau yn eu sefydliad penodedig, gan gwmpasu gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â thimau corfforaethol.
I wneud cais, byddwch wedi cyflawni neu rhagwelir y byddwch wedi cyflawni o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth gradd a rhannu gwerthoedd GIG Cymru, ymrwymo i lwybr gyrfa gwasanaeth cyhoeddus a thaflu popeth at ddysgu cymaint â phosibl gyda ni.
Yn ôl Hyfforddai Graddedig presennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Emily McCann:
Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i chi ddod mewn i gysylltiad â llawer o wahanol feysydd rheoli, gan gynnig dechrau heriol ond gwerth chweil i chi i yrfa rheoli yn y GIG. Mae yna gyfleoedd diddiwedd i ddysgu a thyfu'n bersonol ac yn broffesiynol sy'n eich galluogi i ddatblygu. Yn bwysicaf oll, bydd y gwersi o‘ch cwrs meistr ôl-raddedig yn cysylltu'n uniongyrchol â'ch gwaith bob dydd fel y gallwch roi'r cysyniadau rydych chi'n eu dysgu ar waith".
Dywedodd Claire Monks, Rheolwr Rhaglen Graddedigion AaGIC: “Mae creu cronfa dalent o ddarpar reolwyr yn GIG Cymru yn hollbwysig. Drwy gyfrwng y rhaglen hon gallwn sicrhau bod darpar arweinwyr tosturiol i wasanaethu sefydliadau, mewn gwahanol rolau, ledled Cymru. Wrth ddenu talent amrywiol o’r radd flaenaf gallwn gyfrannu at lwyddiant a ffyniant cyffredinol GIG Cymru, gan helpu i greu sylfaen gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Dysgwch ragor am y rhaglen a'r broses ymgeisio.