Published 16/02/24
Gallwch wneud cais nawr ar gyfer y Rhaglen Graddedigion Rheolaeth Gyffredinol GIG Cymru.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn chwilio am garfan newydd o hyfforddeion i ymuno â’r Rhaglen Rheolaeth Gyffredinol genedlaethol GIG Cymru i Raddedigion.
Mae'r rhaglen ddwy flynedd, seiliedig ar waith yn croesawu ceisiadau ar gyfer Medi 2024. Y mae wedi'i chynllunio ar gyfer darpar arweinwyr GIG Cymru sydd am gyflyru a hyrwyddo newid i wella gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Bydd hyfforddeion yn cwblhau MSc mewn Arweinyddiaeth Iechyd Cymhwysol a ariennir yn llawn ar gyfer darpar arweinwyr. Byddant yn elwa o ddysg ymarferol, cynllun mentora a hyfforddiant anghlinigol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau ym maes rheolaeth ac arweinyddiaeth dosturiol.
Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â lleoliadau o fewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru, ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â chyda thimau corfforaethol.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd neu amcan radd 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth. Rhaid iddynt hefyd rannu gwerthoedd GIG Cymru a bod yn ymrwymedig i lwybr gyrfa ym maes gwasanaeth cyhoeddus.
Dywedodd Oliver Watson, Hyfforddai Graddedig presennol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:
“Rydw i wedi fy syfrdanu o gael y fath gefnogaeth gan reolwyr, cyfarwyddwyr gweithredol a chyfoedion. Mae'r rhaglen yn darparu cyfleoedd delfrydol i ddatblygu sgiliau arwain er budd swydd i’r dyfodol ym maes uwch-reoli.
Mae bod yn rhan o’r Rhaglen Rheolaeth Gyffredinol GIG Cymru i Raddedigion yn eich rhoi mewn sefyllfa hynod freintiedig â chyfleoedd gwych wrth law ar drothwy’ch gyrfa. Yn ystod y deufis cyntaf, rydw i wedi cael amrywiol brofiadau’n cynnwys cyd-deithio mewn ambiwlans a mynychu cyfarfodydd y Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, yn ogystal â dechrau ysgwyddo rolau arweiniol yng nghyswllt prosiectau a fydd yn gwella gofal cleifion.”
Meddai Claire Monks, Rheolwr Rhaglenni i Raddedigion gan AaGIC:
“Mae creu cronfa dalent o ddarpar reolwyr yn GIG Cymru yn hollbwysig. Drwy gyfrwng y rhaglen hon gallwn sicrhau bod darpar arweinwyr tosturiol i wasanaethu sefydliadau, mewn gwahanol rolau, ledled Cymru. Yn sgil denu talent amrywiol o’r radd flaenaf gallwn gyfrannu at lwyddiant a ffyniant cyffredinol GIG Cymru, gan helpu i greu sylfaen gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Dysgwch ragor am y rhaglen a'r broses ymgeisio yma.
Bydd y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen, a fydd yn cychwyn ym mis Medi 2024, yn cau ar 10 Mawrth 2024.