Ddydd Gwener 13eg Rhagfyr , cynhaliodd tîm Gwella Ansawdd ac Arloesi (QIST) yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) QISTŴyl 2024 yn llwyddiannus, sef y gynhadledd Gwella Ansawdd ar thema'r ŵyl a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Roedd y gynhadledd, ar y thema “Arddel Addasu, Alltudio…Arloesi,” yn darparu digwyddiad dysgu a rhannu i bob unigolyn mewn hyfforddiant, hyfforddwyr ac aelodau eraill o dimau amlddisgyblaethol ledled Cymru.
Darparodd y digwyddiad amser ar gyfer rhwydweithio, gyda phedwar sesiwn lawn yn y bore a gweithdai wedi'u hwyluso gan arbenigwyr Gwella Ansawdd yn y prynhawn. Roedd yna gyfle hefyd i arddangos peth o'r gwaith Gwella Ansawdd rhagorol sydd eisoes ar y gweill ledled Cymru drwy'r sesiynau cyflwyno posteri.
Enillydd gwobr QISTŵyl 2024 oedd Dr Bethan Jones, gyda’r cyflwyniad buddugol: “Prosiect Gwella Ansawdd: Atal echdynnu dannedd anghywir mewn orthodonteg ledled de-orllewin Cymru” .Bethan oedd yr enillydd unfrydol o’r pum cyflwyniad poster ar y rhestr fer ar gyfer cyflwyniad llawn i’r gynhadledd, a rhoddwyd bwndel o lyfrau gwella ansawdd iddi fel y wobr.
Croesawodd tîm AaGIC amrywiaeth eang o gynrychiolwyr ac arddangoswyr o bob rhan o GIG Cymru.
Dywedodd Sue Stokes Deon Cyswllt dros Gwella ac Arloesi, AaGIC: “Roedd y gynhadledd hon yn ddigwyddiad pwysig ar gyfer trafodaethau am y defnydd o wella ansawdd mewn gofal iechyd a darparodd ofod cydweithredol, blaengar ac arloesol ar gyfer amrywiaeth eang o staff GIG Cymru.”
O'r adborth a dderbyniwyd, dywedodd 99% o'r ymatebwyr fod y gynhadledd hon wedi cynyddu eu hymwybyddiaeth o egwyddorion methodoleg Gwella Ansawdd.
Dywedodd un mynychwr,“Roedd yn hyfryd clywed am yr holl waith gwych sy’n digwydd mewn sefydliadau amrywiol ac mae wedi dysgu cymaint i mi am wella ansawdd a sut y gallaf gyfrannu at hyn yn y dyfodol. Byddaf yn edrych i ddatblygu fy sgiliau yn y maes hwn yn y dyfodol.”
Croesawodd ein cyd-gadeiryddion, Dr. Gethin Pugh a Dr. Sue Stokes dros 100 o fynychwyr ar y diwrnod.
Roedd y siaradwyr yn y cyfarfod llawn yn cynnwys Penny Pereira, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Q, y Sefydliad Iechyd a Sid Beech, NHS Elect, a gyflwynodd ar y pwnc Galluoedd a Chysylltiadau ar gyfer Gwella: Beth Sydd o’n Blaenau?, a Dr. Aidan Fowler Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelwch Cleifion a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, cyflwyniad ar Ddiogelwch Gorffennol, Presennol a Dyfodol: A yw Zero yn nod defnyddiol?
Daeth Dr Kathryn Speedy a Dr Yvette Powe â'n sesiynau llawn i ben gyda'u cyflwyniad ar Gynaliadwyedd a Gwella Ansawdd.
Daeth ein Gweithdai Siôn Corn â’r diwrnod i ben , gyda’r cynrychiolwyr yn dewis rhwng:
• Data ar gyfer Gwella
• Ffactorau Dynol mewn Gwella Ansawdd
• PDSA ac Arwain Newid
• Arweinyddiaeth Dosturiol