Published 23/11/23
Fis Hydref eleni, roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o gynnal ymweliad hanner diwrnod ar gyfer staff academaidd o Brifysgol Arbenigol VID, Bergen Norwy.
Roedd yr ymweliad deuddydd â Chymru, a gydlynwyd gan Brifysgol De Cymru i gefnogi’r Prosiect EPICC, yn gyfle i rannu safbwyntiau ar rwydwaith Ewropeaidd a sefydlwyd i wella cymhwysedd myfyrwyr wrth ymateb i anghenion ysbrydol unigolion drwy ddulliau arloesol, ymagweddau at addysg a gofal tosturiol.
Lansiwyd y Prosiect EPICC (Gwella Cymhwysedd Nyrsys a Bydwragedd wrth Ddarparu Gofal Ysbrydol trwy Addysg Arloesedd a Gofal Tosturiol) yn 2017 i ymgorffori dulliau arfer gorau o ymdrin ag ysbrydolrwydd o fewn hyfforddiant nyrsys a bydwragedd ledled Ewrop. Mae Cymru wedi bod yn ymwneud yn agos â datblygu'r gwaith hwn.
Mae gofal ysbrydol yn cwmpasu dealltwriaeth gyfannol o anghenion cleifion wrth wynebu digwyddiadau sy'n newid bywydau a darparu rhinweddau gofal megis cynhesrwydd, tosturi ac empathi.
Mae’r sgiliau sylfaenol hyn yn sicrhau bod y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth a gofal iechyd ehangach y dyfodol yn barod i ddarparu’r gofal tosturiol yr ydym i gyd yn disgwyl ei gael fel cleifion.
Arweinir y prosiect EPICC gan ddarlithwyr nyrsio a bydwreigiaeth o brifysgolion ledled y DU, Norwy, yr Iseldiroedd a Malta. Mae uchelgais yng Nghymru i bob myfyriwr a hyfforddai gofal iechyd gael dealltwriaeth o ysbrydolrwydd fel rhan o'u dysgu academaidd a lleoliadau.
Mae AaGIC yn gweithio'n agos gyda phrifysgolion yng Nghymru i geisio ymgorffori Safonau Addysg Gofal Ysbrydol EPICC yn y cwricwlwm nyrsio cyn cofrestru a phrofiad lleoliad, yn ogystal ag e-ddysgu ac asesu o fewn ymarfer clinigol.
Myfyriodd Rheolwr Rhaglen Addysg AaGIC, Simon Cassidy, ar yr ymweliad diweddar:
“Roedd yn wych croesawu cydweithwyr o Norwy i AaGIC a rhannu’r gwaith rydym yn ymwneud ag ef i fynd i’r afael â materion gweithlu ac addysg strategol ac arbenigol a gwneud Cymru yn lle deinamig i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Roedd yn ddiddorol ac yn galonogol gweld graddau ein dulliau a’n dealltwriaeth gyffredin o addysg a dysgu. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cysylltiadau rydym wedi’u gwneud ac yn edrych ymlaen at gyswllt parhaus.”
Dywedodd yr Athro Nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru, Linda Ross am yr ymweliad ag AaGIC:
“Cafodd y grŵp ei synnu, nid yn unig gan y croeso cynnes a gawsant gan bawb, ond gan y ffordd y mae Cymru mor gydgysylltiedig o ran ei pholisi iechyd, addysg ac ymarfer. Er iddynt ddod yn bennaf i weld sut yr oedd ysbrydolrwydd wedi dod yn rhan integredig o’n rhaglenni gofal iechyd, gallent hefyd weld y cymhwysiad hwn yn ehangach.
“Cawsant eu plesio’n fawr gan rôl AaGIC, a’r modd yr ydym yn gofalu am ein myfyrwyr nyrsio gyda rolau tiwtor personol, goruchwyliwr ymarfer, ac aseswr ymarfer.”