Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Dr Olwen Williams o AaGIC yn aelod bwrdd Mwy na Geiriau

Mae Dr Olwen Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt Arweinyddiaeth Glinigol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cael ei phenodi'n aelod o fwrdd cynghori Mwy na Geiriau.

Wedi'i lansio'r llynedd, Mwy na geiriau  yw cynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r ddarpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y bwrdd cynghori yn monitro ac yn craffu ar y cynllun pum mlynedd, sy'n bodoli i wella dealltwriaeth a chydnabyddiaeth ymhlith darparwyr gwasanaethau nad mater o ddewis yn unig yw defnyddio'r Gymraeg, ond hefyd yn fater o angen i lawer o bobl yng Nghymru.

Cyhoeddwyd penodiad Olwen a saith aelod arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Nod craidd Mwy na Geiriau yw sicrhau bod pobl sydd angen gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg yn derbyn 'cynnig gweithredol'. Dyma pryd mae gwasanaeth yn Gymraeg yn cael ei gynnig neu ei ddarparu heb i rywun orfod gofyn amdano.

Dylai darparu Mwy na Geiriau helpu i wella ansawdd y gofal a'r canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru.

Dywedodd Dr Olwen Williams: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i Fwrdd Cynghori Mwy na Geiriau. Mae galluogi ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol i gofleidio'r 'cynnig gweithredol' yn hanfodol.

"Mae gallu ein poblogaeth i fynegi eich hun mewn iaith o'ch dewis yn hawl sylfaenol, ond mae hefyd yn effeithio ar eu lles a'u canlyniadau clinigol. Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r gwaith pwysig hwn."

Y tu hwnt i'w rôl bresennol yn AaGIC, mae Dr Olwen Williams yn feddyg ymgynghorol sydd wedi gweithio ym maes Iechyd Rhywiol a meddygaeth HIV yng ngogledd Cymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Hi yw Cadeirydd Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth am Fwy na geiriau, ewch i Mwy na geiriau: Cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal Cymdeithasol | LLYW.CYMRU