Neidio i'r prif gynnwy

Pen-blwydd rhaglen Cymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol Cymru yn 10 oed

Wrth i raglen Cymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLF) ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, mae gennym newyddion gwych i'w rannu

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o'i Chymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol yng Nghymru. Mae wedi bod yn hynod boblogaidd, ac mae'r rhaglen yn mynd o nerth i nerth.

Yn ddiweddar iawn, mae'r garfan 22/23 gyfan wedi bod yn dathlu cwblhau eu Tystysgrifau Ôl-radd yn llwyddiannus.

At hynny, cyflawnodd un cymrawd farc rhyfeddol o 100% am eu modiwl ar Arweinyddiaeth Dosturiol ar Waith. Hwn oedd y tro cyntaf i'r darlithydd ddyfarnu marc 100% yn ei 20 mlynedd fel uwch ddarlithydd.

Nawr, mae gan garfan 2023 16 o gymrodyr cryf, ac ar fin dechrau eu teithiau cyffrous eu hunain drwy'r rhaglen.

Dechreuodd y rhaglen hon gyda dim ond llond llaw o feddygon, ond mewn cyfnod byr, dyma'r gymrodoriaeth fwyaf amlbroffesiynol yn y DU. Mae'r garfan newydd hon hyd yn oed yn cynnwys lleoedd ar gyfer dwy nyrs!

Mae cael gweithlu mor fedrus yn newyddion gwych i fyrddau iechyd Cymru, ac yn y pen draw, wrth gwrs, i gleifion hefyd.

Dywedodd cyfarwyddwr y rhaglen, Dr Ian Collings: “Mae'r gymrodoriaeth wedi parhau i ddangos ymrwymiad i ddatblygu arweinwyr GIG y dyfodol drwy ddarparu profiad dysgu gwirioneddol ryngbroffesiynol a chyfleoedd, drwy brosiectau gwella ansawdd, i roi eu dysgu ar waith. Rwy'n gyffrous i weld llwyddiant yr 11eg carfan o gymrodyr arweinyddiaeth”.