Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â Cholli'r Dyddiad Cau Terfynol ar gyfer Cyflwyniadau Prosiect -- 14 Rhagfyr 2025

Yn dilyn llwyddiant carfanau blaenorol Cymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLF), mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gyffrous i gyhoeddi derbyniad y rhaglen arweinyddiaeth flaenllaw hon yn 2026.

Mae'n bleser gennym gadarnhau y bydd Cymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol Cymru 2026 yn cael ei ariannu'n llawn sefydliadau’r GIG a gofal sylfaenol, sy'n cwmpasu 100% o gyflog a chostau academaidd.  Mae'r cynnig gwell hwn yn cydnabod y dirwedd ariannol heriol trwy ddileu'r gofyniad blaenorol o 50% o gyfraniad sefydliadol. Bydd hyn yn galluogi sefydliadau GIG Cymru i elwa o gynnal Cymrawd heb ymrwymiad ariannol.

Nod y buddsoddiad hwn yw cyflymu cyflawni prosiectau gwella strategol ledled GIG Cymru sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a hefyd datblygu ein harweinwyr clinigol yn y dyfodol.

Mae Cymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol Cymru yn rhoi cyfle heb ei ail, blwyddyn o hyd i glinigwyr talentog gamu allan o'u rolau arferol i arwain prosiectau effaith uchel wrth gwblhau rhaglen arweinyddiaeth academaidd achrededig.  Bydd cymrodyr yn cael eu recriwtio'n genedlaethol o bob proffesiwn clinigol (hyfforddeion meddygol a deintyddol ST3/DT2 ac uwch, a Band Agenda for Change 7–8a.)

Yn gyfnewid am y buddsoddiad hwn, bydd angen i chi ddarparu amgylchedd cefnogol i'ch Cymrawd sy'n cael ei gynnal gan gynnwys: mentora lleol; arolygiaeth; cyfleoedd rhwydweithio a chysgodi ochr yn ochr â'r cwricwlwm academaidd datblygu arweinyddiaeth wedi'i guradu gan AaGIC.

Rydym bellach yn gwahodd cynigion prosiect ar gyfer cyflawni gwaith gwella strategol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol. O'r prosiectau a gyflwynwyd, bydd hyd at 8 prosiect yn cael eu dewis fel rhan o'r cynnig cyllid 100%.   I fod yn gymwys i gael ei ystyried, rhaid i'ch prosiect gyd-fynd â https://www.llyw.cymru/fframwaith-cynllunio-blynyddol-gig-cymru-2025-i-2028-asesiad-effaith-integredig a/neu Gwella perfformiad gyda'n gilydd: gweithredoedd o flaenoriaeth ar gyfer cyflawni iechyd a gofal gwell 2025 i 2026.

Gellir cefnogi prosiectau pellach fel rhan o'r rhaglen Gymrodoriaeth lle mae sefydliadau'n gallu darparu cyllid 100%.

Rydym nawr yn eich gwahodd i gyflwyno cynigion prosiect a fydd yn helpu i lunio dyfodol darparu iechyd a gofal yng Nghymru.  Mae hwn yn gyfle eithriadol i gefnogi arweinwyr clinigol y dyfodol wrth yrru gwelliant ac arloesedd ystyrlon ledled GIG Cymru. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno 14 Rhagfyr 2025.

Cyflwynwch Eich Prosiect Yma

Welsh Clinical Leadership Fellowship - Porth Arweinyddiaeth AaGIG

I drafod hyn ymhellach, cysylltwch â ni HEIW.WCLTF@wales.nhs.uk