Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer ledled Cymru, gan roi profiad ymarferol i ddysgwyr feithrin sgiliau hanfodol, darparu gofal o safon, a thyfu'n broffesiynol trwy ymarfer a myfyrio yn y byd go iawn. Drwy hyn, mae dysgwyr yn:
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae profiadau dysgu seiliedig ar ymarfer wedi ehangu i gynnwys mwy o ofal sylfaenol a chymunedol yn ogystal â lleoliadau ysbytai, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr a hyfforddeion er enghraifft mewn meddygfeydd teulu, gwasanaethau cymunedol, ardaloedd gwledig, a sefydliadau annibynnol a thrydydd sector.
Mae AaGIC yn gweithio gyda phartneriaid allweddol mewn sefydliadau addysg, iechyd a gofal i sicrhau datblygiad pellach hanfodol o'r cyfleoedd hyn, gan adlewyrchu'r symudiad pwysig mewn gofal iechyd tuag at ofal yn agosach at adref, ffocws ar atal, a gwasanaethau wedi'u cynllunio o amgylch cymunedau lleol. Drwy gefnogi'r newid hwn, mae AaGIC yn helpu i adeiladu gweithlu sy'n fedrus, yn hyblyg, ac yn gysylltiedig â'r bobl a'r lleoedd y mae'n eu gwasanaethu.
Mae ehangu dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer yn rhoi cyfle hollbwysig i fyfyrwyr a hyfforddeion ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal effeithiol ar ôl iddynt gofrestru fel gweithwyr proffesiynol.
Dywedodd Simon Cassidy, Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau:
“Mae effaith y gwaith hwn yn hanfodol i fyfyrwyr a hyfforddeion ar draws proffesiynau gofal iechyd fel eu bod yn cael profiad o fodelau cyfoes o ddarparu gwasanaethau. Hefyd, bod cyfleoedd dysgu seiliedig ar ymarfer ar gael ar draws pob daearyddiaeth, sector a lleoliad sy'n adlewyrchu iaith, diwylliant ac anghenion lleol y boblogaeth. Ac yn arbennig o bwysig bod amlygiad myfyrwyr i ffyrdd rhyngbroffesiynol o weithio yn adlewyrchu'r newidiadau cyfoes hyn mewn iechyd a gofal cymdeithasol.”
Diddordeb mewn dysgu mwy? Ewch i wefan AaGIC neu cysylltwch â Thîm Lleoliadau AaGIC neu Hwyluswyr Addysg Ymarfer lleol.