Published 27/10/2023
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch i gynnig cyllid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn GIG Cymru i ymgymryd â modiwlau MSc mewn genomeg.
Cyflwynir gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) a Pharc Geneteg Cymru (WGP). Mae'r modiwlau unigol wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen ar unigolion i lywio tirwedd genomeg sy'n esblygu'n gyflym mewn gofal iechyd, ni waeth beth yw eu maes ymarfer clinigol neu arbenigedd.
Genomeg yw'r astudiaeth o enynnau unigolyn i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'i iechyd. Mae'r ddisgyblaeth ddatblygol yn cynnig cyfleoedd i wella gofal cleifion yn sylweddol, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:
Mae gwerth ugain credyd i bob modiwl. Cyflwynir pob un trwy raglenni e-ddysgu ar-lein hyblyg i gyfrif am ymrwymiadau proffesiynol a phersonol presennol y myfyrwyr.
Dywedodd Nicola Taverner, Arweinydd Clinigol Genomeg mewn o Addysg a Gwella Iechyd Cymru:
“Mae'r modiwlau hyn yn agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Ni waeth beth yw eich maes ymarfer clinigol neu arbenigedd, ni all y manteision y gall genomeg ei gael ar ofal cleifion gael eu gwireddu'n llawn yn GIG Cymru heb wella sgiliau pawb sy'n rhan o'n gweithlu gofal iechyd.”
“Mae ymchwil yn parhau ar raddfa cyflym i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng ein genynnau a'n hiechyd, gan ddarparu cyfleoedd enfawr ar gyfer cyfuno genomeg yn well i lwybrau trin cleifion.”
Modiwlau sydd ar gael yn dechrau yn Hydref 2023:
Am fanylion ar sut i wneud cais, ewch i wefannau Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor. I gael rhagor o wybodaeth am genomeg mewn gofal iechyd, ewch i Genomeg - AaGIC.