Neidio i'r prif gynnwy

Modiwlau e-ddysgu Iechyd Meddwl Amenedigol newydd ar gael nawr ar Y Ty Dysgu

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru nawr gael mynediad at fodiwlau e-ddysgu Iechyd Meddwl Amenedigol  sydd wedi'u diweddaru ar Y Tŷ Dysgu.

Wedi'u datblygu mewn partneriaeth â GIG yr Alban, mae'r modiwlau'n cynnig dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu ymarferwyr i ddeall Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod a chefnogi teuluoedd mewn cyfnodau o angen.

Mae'r gwaith hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, ac mae'n rhan o'r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol, sy'n cyd-fynd â Chymru Iachach.

Mae'r modiwlau'n cynnig offer a mewnwelediadau ymarferol a gellir eu cwblhau mewn unrhyw drefn, ar unrhyw gyflymder. Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  1. Cyflwyniad Hanfodol
  2. Cadw Babi mewn Cof
  3. Stigma
  4. Risg
  5. Asesiad
  6. Ymyriadau
  7. Dulliau ffarmacolegol

Mae mwy na 500 o ddysgwyr eisoes wedi ymgysylltu â'r modiwlau, gyda llawer yn canmol y cynnwys am ei berthnasedd a'i effaith:

“roedd y cynnwys wedi’i strwythuro’n dda ac yn ddiddorol, gan gwmpasu pynciau hanfodol”

“Mwynheais bob agwedd ar y modiwl hwn”

“Mae’r modiwl yn ddiddorol ac fe wnes i ei fwynhau’n fawr iawn!”

“Rwy’n credu y dylai unrhyw un sy’n gweithio gyda gwasanaethau plant gael cynnig i gwblhau hyn os nad yw eisoes wedi gwneud hynny. Rhyfeddol”

“dull cyfannol o gefnogi teulu, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol i gefnogi menywod, eu partneriaid a’u babanod”.