Neidio i'r prif gynnwy

Matt Brayford o AaGIC yn arwain gorymdaith lampau eiconig trwy Abaty Westminster yng Ngwasanaeth Coffau Florence Nightingale

Wedi'i gyhoeddi ddydd Iau 16 o Fai 2024

Mae'n anrhydedd i Matt Brayford fod y nyrs iechyd meddwl gyntaf mewn hanes i berfformio rôl fawreddog 'Gosgordd Lamp' yng Ngwasanaeth Coffau Florence Nightingale.

Mae nyrs hyfforddedig Cymru a Rheolwr Rhaglen Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gobeithio y bydd ei ran yn y gwasanaeth eiconig yn helpu i godi proffil nyrsio iechyd meddwl ac yn annog mwy o nyrsys iechyd meddwl i wneud cais am Ysgoloriaethau Sefydliad Florence Nightingale (FNF) yn ogystal â'r rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a gynigir gan AaGIC.

Mae AaGIC yn noddwr balch o’r Ysgoloriaethau Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale.

Ar ôl cwblhau Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth Ddigidol FNF yn ddiweddar, roedd Matt yn un o ddau Ysgolor a ddewiswyd gan y Sefydliad i ‘hebrwng y Cludwr Lampau’ yn ystod y Gwasanaeth yn Abaty Westminster ddydd Mercher 15 o Fai 2024.

Cynhelir y Gwasanaeth Coffa yn flynyddol gan FNF i ddathlu etifeddiaeth Florence Nightingale i’r proffesiwn nyrsio, i goffáu cydweithwyr nyrsio yn y gorffennol ac i ddangos gwerthfawrogiad byd-eang am ymrwymiad, gwaith ac ymroddiad nyrsys a bydwragedd ledled y DU.

Cludir y lamp hanesyddol drwy'r Gadeirlan gan gyd-Ysgolor FNF a'i gosod ar yr allor i gynrychioli 'ysbryd anfarwol y gwasanaeth a arddangosir gan Florence Nightingale'. Mae Gosgordd Y Lamp yn dilyn, gan arwain gorymdaith o Ysgolheigion y Sefydliad, nyrsys a bydwragedd uchel eu parch.

Mae'r traddodiad mawreddog hwn wedi'i ailadrodd bob blwyddyn ers 1965 i ddynodi trosglwyddo gwybodaeth Florence Nightingale i genedlaethau nyrsys a bydwragedd y dyfodol.

Dywedodd Matt Brayford: “Roedd yn fraint wirioneddol i gael fy ngofyn i gymryd rhan yn y Gwasanaeth Coffáu ac rwy’n falch iawn o gynrychioli nyrsio iechyd meddwl.

“Fe wnaeth gweithio yn y gwasanaethau digartrefedd fy arwain at hyfforddi fel nyrs iechyd meddwl. Mae'n yrfa mor foddhaus. Mae fy mhrofiad ar Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth Ddigidol FNF wedi fy ngalluogi i ddysgu gan nyrsys gwych eraill, herio syndrom ymhonnwr a gwerthfawrogi gwerth fy syniadau.

“Mae pob un ohonom yn arbenigwyr yn ein maes ac yn gallu cyfrannu at wella gwasanaethau. Ni ddylem fyth ddiystyru ein gwerth a’r gwaith a wnawn.”

Yn ystod ei Ysgoloriaeth FNF, cyd-gynhyrchodd Matt Raglen Addysg Gofalwyr ar gyfer Seicosis gyda gofalwyr, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol o bob rhan o Gymru, a Gwelliant Cymru. Y llyfr gwaith 'hunangymorth dan arweiniad' yw'r cyntaf o'i fath yn y DU ac mae gofalwyr pobl â seicosis ledled Cymru bellach yn ei ddefnyddio.

Dywedodd Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Addysg Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn AaGIC: “Mae Gwasanaeth blynyddol Coffau Florence Nightingale yn ddiwrnod pwysig wrth i ni ddiolch i’n cydweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth fendigedig ledled y byd a dathlu sut rydym yn parhau ag etifeddiaeth Florence Nightingale heddiw, trwy’r ymrwymiad, yr ymroddiad a’r gofal anhygoel a ddarparwn i eraill.

“Llongyfarchiadau i Matt ar ddod yn Ysgolor FNF a chael ei ddewis i fod yn aelod o orymdaith Lamp Florence Nightingale gydag Ysgolheigion y Sefydliad uchel eu parch eraill. Rydym yn hynod falch bod gan Matt, nyrs iechyd meddwl gofrestredig a gyflogir yn GIG Cymru gyfrifoldeb allweddol yn y digwyddiad rhyngwladol ingol hwn.”