Neidio i'r prif gynnwy

Mae platfform e-ddysgu cenedlaethol AaGIC - Y Ty Dysgu, yn cyrraedd dros 32,000 o ddefnyddwyr

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dathlu carreg filltir bwysig wrth i'w blatfform e-ddysgu cenedlaethol, Y Ty Dysgu, ddenu mwy na 32,000 o ddefnyddwyr cofrestredig ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2022.

Mae'r platfform dysgu ar-lein yn rhoi mynediad i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru at ystod eang o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys:

  • Digwyddiadau a recordiadau DPP byw
  • Modiwlau e-ddysgu
  • Adnoddau addysgol
  • Cymunedau ymarfer

Mae pob aelod o staff sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gymwys i gael cyfrif am ddim. I staff GIG Cymru, mae'r system hefyd yn cefnogi Mewngofnodi Sengl (SSO) ar gyfer mynediad cyflym a di-dor.

Mae dysgwyr yn elwa o gyrsiau sydd wedi'u cynllunio a'u cyflwyno gan arbenigwyr pwnc blaenllaw, sy'n ymdrin â phynciau sy'n cefnogi ymarfer bob dydd yn uniongyrchol. Mae'r rhaglenni sydd ar gael ar Y Ty Dysgu ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Iechyd Meddwl
  • Optometreg
  • Deintyddiaeth
  • Fferylliaeth
  • Gofal Eilaidd
  • Gofal Sylfaenol a Nyrsio Cymunedol
  • Ymarfer Cyffredinol (gan gynnwys cefnogaeth Ailddilysu)
  • Genomeg
  • Efelychu
  • Fframwaith Gallu Digidol (gydag adnoddau sgiliau digidol wedi'u teilwra yn dod yn fuan)
  • Cynllunio Gweithlu Strategol

Mae gwaith hefyd ar y gweill gyda’r Academi Endosgopi i ddatblygu cymorth dysgu newydd yn y maes clinigol hanfodol hwn.

Mae AaGIC yn sicrhau bod yr holl ddysgu yn cael ei werthuso, ac mae’r canlyniadau ar gael i drefnwyr cyrsiau a digwyddiadau i helpu i wella cynigion yn y dyfodol.

📖 Archwiliwch y porth: ytydysgu.heiw.wales
🌐 Tudalen lanio gyhoeddus gyda hybiau dysgu: nhswalesytydysgu.heiw.wales/learning-and-networks

Gyda'i gyrhaeddiad cynyddol a'i adnoddau amrywiol, mae Y Tŷ Dysgu yn dod yn gonglfaen ar gyfer datblygiad proffesiynol ar draws gweithlu iechyd a gofal Cymru.