Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHPs) yn lansio ymgyrch Adsefydliad? Pwy a Wyr!

O’r 5ed i’r 16eg o Ragfyr mae’r tîm AHP a Gwyddor Gofal Iechyd yn rhyddhau cynnwys fideo a blog i godi ymwybyddiaeth am waith sy’n cael ei gwblhau o fewn eu proffesiynau.

Gwelwch yr holl gynnwys diweddaraf isod.

Diwrnod 1 AM - Sheryl Barnett

Mae Sheryl Barnett, sy'n gweithio ym Mwrdeistref Caerffili fel Technegydd Ffisiotherapi yn rhannu ei phrofiadau o weithio o fewn tîm adnoddau cymunedol integredig prysur.

Diwrnod 1 PM - Zoe Silsbury

Clywch isod gan Zoe Silsbury, ynglŷn ag Adsefydlu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghwm Taf Morgannwg.

Diwrnod 2 AM - Gethin Harris

Mae Gethin Harries, Therapydd Ymgynghorol, sy'n darparu cynhaliaeth i unigolion sy'n ymdopi â chyflyrau hirdymor yng Ngwasanaeth Byw'n Dda Powys ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn rhannu ei brofiadau o weithio ym maes Adsefydlu yn Gymraeg!

Diwrnod 2 PM - Susan Boon

Mae Susan Boon yn siarad â ni ynglŷn ag ymgorffori modd o gyrchu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) a Gwyddonwyr Gofal Iechyd ym maes Adsefydlu.

Diwrnod 3 AM - Colin Gibson

Mae Colin Gibson yn gweithio fel Gwyddonydd Clinigol sy'n arbenigo mewn Peirianneg Adsefydlu. Mae gan Colin arbenigedd neilltuol mewn ymdrin ag ystum corff cymhleth a'i effaith ar iechyd anadlol.

Diwrnod 3 PM - Phillippa Lee

Rydym yn eiddgar i arddangos yr ymlafnio a wneir ym maes Adsefydlu ac mae Phillippa Lee, yn amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'i ddylanwad ar amcanion y cleifion!

Diwrnod 4 AM - Jenny Blackhouse

Dewch i gwrdd â Jenny Blackhouse, Deietegydd.

Mae Jenny’n garedig wedi rhoi o’i hamser i rannu ei phrofiadau fel Deietegydd ym maes Adsefydlu gyda ni. I gael gwybod rhagor.

Diwrnod 4 PM - Nicola Perry Gower

Ydych chi erioed wedi ystyried Gwerthoedd a Dyfodol y maes Adsefydlu? Mae Nicola Perry-Gower, sy'n gweithio ym maes Adsefydlu’r Ysgyfaint yn BIP Bae Abertawe, yn siarad â ni am y gwerthoedd allweddol y mae AHP a Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn eu cyflwyno i Adsefydlu.

Diwrnod 5 AM - Ross Nowell

Mae Ross Nowell, sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Ffisiotherapydd yn rhannu ei brofiadau o weithio ar wardiau cymunedol adsefydlu cleifion mewnol.

Diwrnod 5 PM - Stephanie Wentworth

Clywch isod gan Stephanie Wentworth am ei rôl o fewn Peirianneg Adsefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Diwrnod 6 - Amy Best

Mae Amy’n garedig wedi rhoi o’i hamser i rannu ei phrofiadau fel Therapydd Galwedigaethol yn gweithio yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a'r Uned Arhosiad Byr ar gyfer Pobl Hŷn.

Diwrnod 7 - James Needham

Dewch i gyfarch James Needham, Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol sy'n gweithio o fewn gwasanaeth rheoli poen yn BIP Betsi Cadwaladr. Mae James yn siarad am ei rôl ym maes Adsefydlu, sef cynorthwyo pobl sy'n byw gyda phoen parhaus a'u cyfarwyddo i gyflawni eu nodau.

Diwrnod 8 - Seren Hughs

Dewch i gwrdd â Seren Hughes, Therapydd Galwedigaethol sy'n gweithio yn BIP Hywel Dda.

Mae Seren yn garedig wedi rhoi o’i hamser i rannu ei phrofiadau fel Therapydd Galwedigaethol yn gweithio yn y gwasanaeth Niwro-adsefydlu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin.

Diwrnod 9 - Georgina Hooper

I gloi’r ymgyrch “Adsefydlu, Pwy a Ŵyr?”, hoffem gyflwyno Georgina Hooper, sy'n gweithio fel Ffisiotherapydd a Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar gyfer Orthopedeg Paratoi'n Dda yn BIP Caerdydd a'r Fro. Mae Georgina’n siarad am ei rôl a phwysigrwydd Adsefydlu.

Diwrnod 10 - Sarah Elliot

Hoffai Sarah Elliott, Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn AaGIC ddweud diolch MAWR wrth bob cyfranogwr fu’n cefnogi ein ymgyrch “Adsefydliad? Pwy a Ŵyr!”