Mae Dr Laura Mackenzie, un o’n tîm arfarnu meddygon teulu yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wedi’i phenodi’n ddiweddar fel Cymrodor Bevan eleni. Llongyfarchiadau Laura!
Mae Cymrodyr Bevan yn weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy’n frwd dros arwain newid a thrawsnewid y ffordd rydym yn gweithio. Mae'r rhaglen Cymrodyr yn rhedeg am ddwy flynedd ac yn cynnig cyfle i gyfranogwyr weithio ar ymchwil, datblygu arweinyddiaeth ac addysg. Mae cymrodyr yn cynnal ymchwil sy'n gysylltiedig â'u prosiectau, yn adeiladu sgiliau arwain i ysgogi newid, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol sy'n cefnogi eu gwaith.
Mae gan Laura ddiddordeb arbennig mewn archwilio sut y gellir defnyddio addysg DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) i wella gofal cleifion yn uniongyrchol. Yn draddodiadol, mae addysg DPP meddygon teulu yn canolbwyntio ar wella gwybodaeth glinigol y cyfranogwr. Fodd bynnag, ni wyddom a yw hyn yn golygu gwell gwasanaethau a gofal i gleifion. Mae ymagwedd newydd at DPP yn cael ei threialu gan ein Huned Cymorth Ailddilysu. Yn y model hwn, mae meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig o'r un practis meddygon teulu yn mynychu gweithdai gyda'i gilydd, gyda'r nod o ehangu eu gwybodaeth a chreu cynlluniau ar gyfer gwneud gwelliannau i wasanaethau cleifion yn eu practis.
Mae bod yn Gymrawd Bevan yn gyfle gwych a fydd yn caniatáu i Laura ddatblygu sgiliau, cysylltu ag eraill, a dysgu oddi wrth ei chyfoedion. Mae Laura hefyd yn gobeithio y bydd ei gwaith yn dod â gwerth i AaGIC trwy helpu i archwilio ac adeiladu tystiolaeth ar gyfer y dull newydd hwn o addysg DPP.
Dywedodd Dr Chris Price, Pennaeth yr Uned Cymorth Ailddilysu ;
“Hoffwn longyfarch Laura ar ddod yn Gymrawd Bevan ac rwyf wedi fy nghyffroi gan y gwaith y bydd yn ei wneud ar gyfer AaGIC yn edrych ar fudd menter DPP newydd sy’n cael ei threialu gan yr RSU i ofal cleifion. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at fudd profedig o ran darparu gofal ar lefel practis a lefel cleifion”.
https://bevancommission.org/programmes/bevan-fellows/