Neidio i'r prif gynnwy

Mae darparwyr addysg a lleoliadau allweddol yn parhau i addo eu hymrwymiad i fyfyrwyr gofal iechyd

Mae PACT yn ddogfen sy'n cefnogi mynediad diogel myfyrwyr gofal iechyd i amgylcheddau dysgu ymarfer.

Wedi'i lansio'n wreiddiol yn ystod amodau pandemig, mae'n cynnwys set o addewidion gan sefydliadau sy'n ymwneud â chefnogi myfyrwyr i leddfu pryderon myfyrwyr am ddysgu ymarfer.

Ystyr PACT yw Partneriaeth, Atebolrwydd, Hygrededd ac Ymddiriedaeth. (Partnership, Accountability, Credibility and Trust) Mae'r fersiwn hon wedi'i diweddaru wedi'i chynhyrchu yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyd-gynhyrchu eang. Mae rhai o'r ychwanegiadau newydd yn y fersiwn yn cynnwys:

  • mwy o addewidion
  • fformat digidol i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad iddo
  • cynnwys fideo
  • cyflwyniad gan Brif Weithredwr AaGIC, Alex Howells
  • negeseuon wedi'u recordio gan y Prif Swyddog Nyrsio, y Prif Swyddog Meddygol, y Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru
  • ffocws ar fyfyrwyr a hyfforddeion gofal iechyd ar draws pob rhaglen

Gweler y ddogfen lawn yma: https://heiw.pagetiger.com/pact-pledges/cymraeg 

Trawsgrifiad Cymraeg.

 

Gobeithiwn y bydd y PACT yn dangos ein hymrwymiad i addysg ymarfer ar adeg o her wirioneddol a bwriad i wneud popeth posibl i gefnogi dysgu ar leoliad myfyrwyr a hyfforddeion ledled Cymru.