Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymhelliad DFT WERO llwyddiannus wedi cryfhau gofal deintyddol yng nghefn gwlad Cymru

Mae'r fenter recriwtio gyda'r nod o annog hyfforddeion deintyddol i fanteisio ar gyfleoedd ledled Cymru wledig wedi bod yn llwyddiannus am drydedd flwyddyn!

Mae’r rhan fwyaf o raddedigion deintyddol newydd yn dewis cwblhau eu blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen (DFT) mewn practis deintyddol cyffredinol mewn ardaloedd mwy trefol, gan adael rhai practisau hyfforddi mewn rhannau gwledig o Gymru heb ddigon o adnoddau gyda swyddi hyfforddi gwag.

Yn 2019/20, aeth 6% o swyddi gwag DFT gwledig heb eu llenwi, a olygai y rhoddwyd pecynnau cymorth ar waith ar gyfer y practisau hyfforddi hyn nad oedd ganddynt hyfforddai, ac felly roedd mynediad at ofal deintyddol y GIG yn y cymunedau lleol hyn yn cael ei leihau.

Mewn ymateb,  lansiodd AaGIC DFT WERO (Cynnig Recriwtio Uwch Cymru) yn 2023. Roedd hon yn fenter newydd i annog hyfforddeion i gwblhau eu hyfforddiant mewn practis gwledig a chynyddu gwasanaethau deintyddol i bobl yn yr ardal. Mae'r fenter yn cynnig pecyn cymorth uwch i hyfforddeion sy'n cyflawni eu blwyddyn DFT mewn practisau deintyddol gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yn 2023 treialwyd hwn gyda 10 lle ac yn dilyn peilot llwyddiannus cynyddodd y cynnig ar gyfer 2024 i 15 o leoedd a gafodd eu llenwi i gyd.

Dychwelodd cynnig DFT WERO eleni gyda 15 swydd yn cael eu cynnig a'u llenwi a bydd hyfforddeion yn dechrau ym mis Medi 2025.

Ychwanegodd William Howell, perchennog practis ym Mhractis Deintyddol Aberteifi sy’n cynnig lle hyfforddi deintyddol, “Cardigan offers so much from a thriving town centre to its beautiful beaches and countryside. Our new dental practice has state-of-the-art facilities, experienced staff who are passionate about teaching and potential employment opportunities once the training has been completed. We will do everything to make trainees feel welcome and I’m sure they’ll end up falling in love with the area just like we have.”

Mae adborth gan yr hyfforddeion hyn wedi bod yn hynod gadarnhaol. Yng ngharfan 2023/24, rhoddodd 100% o’r hyfforddeion sgôr gadarnhaol i’w lleoliadau, gydag 80% yn rhoi sgôr perffaith o 5/5. Yn ogystal, dewisodd 90% o hyfforddeion aros yng Nghymru ar ôl eu blwyddyn DFT, gan ddangos effaith hirdymor y cynllun ar adeiladu gweithlu cynaliadwy. Mae adborth gan yr hyfforddeion yn dangos eu bod hefyd yn gwerthfawrogi'r lleoliadau gwledig hyn, gan eu bod yn fuddiol ar gyfer eu datblygiad clinigol a phroffesiynol.

  • “I applied to the DFT WERO scheme because one of my Liverpool tutors recommended it to me. I'm so thankful I did because I've learned so much… I've gained lots of clinical experience and become a more skilled practitioner. We've taken on more difficult cases, such as complex endodontics or surgical extractions, because secondary care isn’t as accessible in rural areas.”
  • "A brilliant and friendly team. The practice was modern, well-equipped, and if I needed anything different, they were more than happy to order it in. My Educational Supervisor was fantastic, always on hand to answer any questions and tailor tutorials to suit my needs."
  • “A great team to work with and extremely supportive! I've been given lots of training, freedom to learn, and the chance to build confidence in treating patients.”

Dywedodd Kirstie Moons, Deon Ôl-raddedig Deintyddol AaGIC “I am delighted that HEIW has been able to offer local incentives to grow and retain our dentist workforce in traditionally hard to recruit areas in Wales. This initiative was approved by Welsh Government and helps in providing continued NHS dental care to people in rural areas. It will also safeguard Dental Foundation Training places in these dental practices for newly qualified dentists to apply to in future years.”