7/2/25
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Cynllun Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2025-26, gyda buddsoddiad o £294m i gynnal lefelau comisiynu addysg a hyfforddiant. Mae addysg a hyfforddiant yn allweddol i sicrhau gweithlu cynaliadwy yn GIG Cymru a chefnogi’r system i ddarparu gofal cleifion diogel o ansawdd uchel.
Cynhyrchir y Cynllun Addysg a Hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mewn cydweithrediad â phartneriaid. Mae'n nodi'r niferoedd comisiynu hyfforddiant ac addysg ar gyfer y gweithlu iechyd proffesiynol, gyda ffocws ar hyfforddiant aml-broffesiynol a symud tuag at ofal sylfaenol a chymunedol.
Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC, “Datblygwyd y cynllun hwn mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o GIG Cymru a bydd yn cefnogi niferoedd y gweithlu presennol ac yn y dyfodol. “Mae’r cynllun yn cefnogi twf y gweithlu tra’n mynd i’r afael â phwysau ariannol a heriau recriwtio ar draws GIG Cymru a bydd yn cryfhau gweithlu’r dyfodol i ddarparu gofal o safon i’n poblogaeth a gwaith yng Nghymru mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau.”
Mae manylion Cynllun Addysg a Hyfforddiant diwygiedig 2025-26 ac mae atodiadau wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Cynllun Addysg a Hyfforddiant.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:heiw.planning&performance@wales.nhs.uk