Neidio i'r prif gynnwy

Mae Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol y CMC bellach yn fyw!

(cyhoeddwyd 2/4/2025)

Gofynnir i tua 100,000 o feddygon - hyfforddeion a hyfforddwyr - gymryd rhan yn yr arolwg. Fe'i cynhelir bob blwyddyn a dyma'r golwg blynyddol fwyaf i addysg a hyfforddiant yn y gweithle.

Mae'r cwestiynau'n ymdrin â meysydd gan gynnwys ansawdd yr hyfforddiant; llwyth gwaith a’r ymdeimlad o or-weithio. Maent hefyd yn ymwneud â’r amser sydd ar gael i ddarparu neu dderbyn hyfforddiant; mynediad i ystafelloedd egwyl a mannau astudio, ac anghwrteisi ac anfoesgarwch yn y gweithle. Mae arolwg eleni hefyd yn cynnwys cwestiynau am effaith y pandemig.

Bydd y CMC yn gweithredu ar y canlyniadau yn ei waith gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i ddiogelu ansawdd yr hyfforddiant ac i helpu adfer hyfforddiant ar ôl y pandemig. Mae hynny’n golygu bod amrywiaeth eang o ymatebion, ar draws arbenigeddau a rhanbarthau, yn hollbwysig.

Cymerwch ran heddiw neu ewch i www.gmc-uk.org/nts am ragor o wybodaeth am sut bydd eich atebion yn ysgogi newid. 

Pryd fydd yr arolwg yn cael ei lansio? 
Dechreuodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) lansiad yr arolwg ar 18 Mawrth 2025. Bydd yr arolwg ar agor am chwe wythnos, ac yn cau ddydd Iau 29 Ebrill 2025. Y prif nod yw mesur eich canfyddiad o ansawdd yr hyfforddiant yr ydych chi’n ei dderbyn.

Sut y cysylltir â’r hyfforddeion? 
Bydd angen i hyfforddeion fewngofnodi i
gyfrif y CMC Ar-lein

Yna gellir dod o hyd i arolwg yr hyfforddai trwy glicio ar y tab 'Fy Arolygon'. Bydd tudalen gyntaf yr arolwg wedi cael ei llenwi â manylion swydd yr hyfforddai a dim ond os oes angen y bydd angen i hyfforddeion gadarnhau a ydynt yn gywir neu eu diwygio. 

Pa hyfforddeion sydd angen llenwi’r arolwg? 

Mae'r arolwg yn berthnasol i breswylwyr Sylfaen, Craidd ac Arbenigedd dan hyfforddiant gan gynnwys Meddygon Teulu. Yr unig eithriadau i hyn yw hyfforddeion y dyfarnwyd iddynt eu CCT ond sy'n aros am swydd fel Ymgynghorydd, deintydd a hyfforddeion Iechyd Cyhoeddus anfeddygol. Eithriadau eraill yw meddygon nad ydynt mewn swyddi hyfforddi e.e. apwyntiadau locwm ar gyfer gwasanaeth (LAS) a meddygon gradd Ymddiriedolaeth, meddygon preswyl y Fenter Hyfforddiant Meddygol (MTI). Poblogaethau dan hyfforddiant na fyddant yn cael eu harolygu ond y cesglir gwybodaeth amdanynt yw hyfforddeion sydd ar absenoldeb mamolaeth ar 18 Mawrth 2025 neu hyfforddeion y tu allan i’r rhaglen (OOPT) y tu allan i’r DU, ymchwil y tu allan i’r rhaglen (OOPR), profiad clinigol y tu allan i’r rhaglen (OOPE), neu seibiant gyrfa y tu allan i’r rhaglen.


Sut y ceir canlyniadau arwyddocaol? 
Cyn lansio'r arolwg byddwn yn gweithio gydag arbenigeddau a lleoliadau i godi ymwybyddiaeth. Yn ystod yr arolwg, bydd yr Uned Ansawdd yn monitro'r gyfradd ymateb ac yn gweithio gyda'r arweinwyr arbenigeddau a Chanolfannau Ôl-raddedig i atgoffa'r rhai nad oeddent wedi ateb yr arolwg. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg at arolwg hyfforddeion AaGIC

Pryd fydd y canlyniadau ar gael? 
Mae'r CMC wedi cynghori y bydd y canlyniadau ar gael i'r cyhoedd yn haf 2025 (dyddiad terfynol i'w gadarnhau). Bydd AaGIC yn dosbarthu rhagor o wybodaeth am y canlyniadau pan fyddant ar gael. 

Eich barn 
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn gydweithio i wella ein cyfradd ymateb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â ni. Dyma gyfle prin i ddylanwadu ar hyfforddiant drwy roi eich barn i’r CMC ar safon addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Bydd ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn cael eu hadrodd yn ddienw. 

Rhagor o wybodaeth
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg sydd i ddod, cysylltwch â: 

 

Gofynnir i tua 100,000 o feddygon - hyfforddeion a hyfforddwyr - gymryd rhan yn yr arolwg. Fe'i cynhelir bob blwyddyn a dyma'r golwg blynyddol fwyaf am addysg a hyfforddiant yn y gweithle.

Mae'r cwestiynau'n ymwneud â meysydd gan gynnwys ansawdd yr hyfforddiant, llwyth gwaith a’r ymdeimlad o or-weithio. Mae hefyd yn ymwneud â’r amser sydd ar gael i gyflwyno neu dderbyn hyfforddiant, mynediad i leoliadau a mannau astudio, ac anghwrteisi ac anfoesgarwch yn y gweithle. Mae arolwg eleni hefyd yn cynnwys cwestiynau am effaith y pandemig.

Bydd y CMC yn gweithredu ar ganlyniadau ei waith gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i ddiogelu ansawdd yr hyfforddiant ac i helpu adfer hyfforddiant ar ôl y pandemig. Mae hynny'n golygu bod amrywiaeth eang o ymatebion, ar draws arbenigeddau a rhanbarthau, yn holl-bwysig.

Cymerwch ran heddiw neu ewch i http://www.gmc-uk.org/nts i gael rhagor o wybodaeth am sut bydd eich atebion yn ysgogi newid.

 

Pryd fydd yr arolwg yn cael ei lansio?

Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yn dechrau lansio’r arolwg ar 18 Mawrth 2025. Bydd yr arolwg ar agor am chwe wythnos, ac yn cau dydd Iau 29 Ebrill 2025. Y prif nod yw olrhain eich canfyddiad o ansawdd yr hyfforddiant yr ydych yn ei dderbyn.  Cyfrif Ar-lein y CMC

 

Sut y cysylltir â’r hyfforddeion?

Bydd angen i hyfforddeion fewngofnodi i gyfrif y CMC ar-lein.

Yna gellir dod o hyd i arolwg yr hyfforddai trwy glicio ar y tab 'Fy Arolygon'. Bydd tudalen gyntaf ffurflen yr arolwg yn cael ei llenwi â manylion swydd yr hyfforddai a bydd ond angen i’r hyfforddai gadarnhau a yw’r manylion yn gywir neu eu newid os nad ydynt.

  

Pa hyfforddeion sydd angen llenwi’r arolwg?

Mae'r arolwg yn berthnasol i hyfforddeion arbenigedd Sylfaen, Craidd ac Uwch gan gynnwys Cofrestrydd Arbenigedd (SpR) a hyfforddeion Meddyg Teulu. Yr unig eithriadau i hyn yw SpRs/StRs y dyfarnwyd eu CCT iddynt ond sy’n aros am swydd fel ymgynghorydd, deintydd a hyfforddeion iechyd cyhoeddus anfeddygol. Eithriadau eraill yw meddygon nad ydynt mewn swyddi hyfforddi e.e. apwyntiadau locwm ar gyfer meddygon gradd gwasanaeth a meddygon gradd ymddiriedolaeth, meddygon preswyl y Fenter Hyfforddiant Meddygol (MTI). Poblogaethau dan hyfforddiant na fyddant yn cael eu harolygu ond a gesglir gwybodaeth amdanynt yw hyfforddeion sydd ar absenoldeb mamolaeth o 18 Mawrth 2025 neu sydd yn hyfforddeion allan i’r rhaglen,  y tu allan i’r DU, ymchwil y tu allan i raglen, profiad clinigol y tu allan i raglen, neu y tu allan i’r rhaglen am seibiant gyrfa.

 

Sut y ceir canlyniadau arwyddocaol?

 Cyn lansio'r arolwg byddwn yn gweithio gydag arbenigeddau a lleoliadau i godi ymwybyddiaeth. Yn ystod yr arolwg, bydd yr Uned Ansawdd yn monitro'r gyfradd ymateb ac yn gweithio gyda'r arweinwyr arbenigol a'r Canolfannau Ôl-raddedig i atgoffa'r rhai nad oeddent wedi llenwi’r arolwg. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg at arolwg hyfforddeion AaGIC.

 

Pryd fydd y canlyniadau ar gael?

 Mae'r CMC wedi cynghori y bydd y canlyniadau ar gael i'r cyhoedd yn haf 2025 (dyddiad terfynol i'w gadarnhau). Bydd AaGIC yn dosbarthu rhagor o wybodaeth am y canlyniadau pan fyddant ar gael.

 

Eich barn

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut y gallwn gydweithio i wella ein cyfradd ymateb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â ni. Dyma gyfle prin i ddylanwadu ar hyfforddiant drwy roi eich barn i’r CMC am safon addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Bydd yr ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn cael eu hadrodd yn ddienw.

 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg sydd i ddod, cysylltwch â: