Neidio i'r prif gynnwy

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod AaGIC wedi cyrraedd rhestr fer saith gwobr yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru eleni.

Rydym ar y rhestr fer mewn 4 categori a hoffem ddiolch i'r staff sydd wedi cymryd yr amser i baratoi'r enwebiadau a dymuno llawer o lwc iddynt ar y noson.

Enwebiadau'r Gwobrau yw:

· Gwobr Cymru Gyfrifol yn Fyd-eang: gweithwyr AHP yn darparu    

  Gofal Iechyd Cynaliadwy (Mark Brand)

· Gwobr Cymunedau Cydlynol Cymru: Cymuned  Call Hinsawdd GIG Cymru

   (Owain Vivian)

· Gwobr 'Lledaeniad a Graddfa': Pharma-See (Geraint Jones)

 

A phedwar enwebiad am Wobr Cymru Ffyniannus, sy'n ymgorffori sgiliau ac addysg:

· Cyfres podlediad 'Sgyrsiau Call yr Hinsawdd GIG Cymru' (Kathryn Speedy)

· Matrics Ymgysylltu ar gyfer timau deintyddol yng Nghymru (Anne Walker/Sue Stokes)

· Rhestr Wirio Digwyddiadau Cynaliadwyedd Deintyddol (Lynne O'Sullivan)

· Hyrwyddwyr Call yr Hinsawdd GIG Cymru (Justine Cooper)

 

Wrth siarad yn dilyn cyhoeddi’r  rhestr fer, dywedodd Prif Weithredwr AaGIC, Alex Howells... “Bydd enillwyr y gwobrau hyn yn cael cyfle i rannu eu dysgu ar fforymau cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth arbenigol i archwilio'r potensial ar gyfer rhaglen o gyflwyno'n genedlaethol”.

“Rwy'n falch iawn o weld bod ein gwaith yn cael ei gydnabod mor eang ac rwy'n dymuno pob lwc i'r timau ar gyfer cyhoeddi'r enillwyr.”

Cynhelir Cynhadledd Cynaliadwyedd Cymru ddydd Iau 13 Mehefin 2024, 9.30am tan 4.00pm, ac yna dathliad y gwobrau yng Nghyrchfan y Fro, Hensol, CF72 8JY.

Archebwch eich lle yma.

 

Mae'r rhestr fer gwobrau lawn ar gael drwy ymweld â  Ymgeisiwch nawr am Wobrau Cynaliadwyedd Cymru