Rydym wrth ein bodd y bydd Elen Jones yn ymuno ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn yr Hydref fel Deon Fferylliaeth.
Mae Deon Fferylliaeth AaGIC yn rôl arweinyddiaeth bwysig wrth wraidd addysg gofal iechyd a thrawsnewid y gweithlu yng Nghymru a bydd yn canolbwyntio ar arloesedd strategol, cydweithio ar draws y system, ac effaith fesuradwy, gan lunio dyfodol addysg, polisi ac ymarfer fferylliaeth, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.
Ar hyn o bryd, mae Elen yn Gyfarwyddwr Fferylliaeth ledled Prydain Fawr yn Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cymru ac yn Arweinydd Polisi ac Ymarfer yn flaenorol, dywedodd "Rwy’n hynod falch o ymuno ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar adeg mor drawsnewidiol i ofal iechyd. Gyda’r maes fferylliaeth yn esblygu’n gyflym, yn enwedig drwy ehangu hawliau rhagnodi I fferyllwyr a’r rôl gynyddol i dechnegwyr fferylliaeth, rwy’n gyffrous i helpu lunio dyfodol ein gweithlu. Rwyf hefyd yn angerddol dros gyfrannu at genhadaeth ehangach HEIW, trwy cydweithio ar draws y proffesiynau i gefnogi addysg, hyfforddiant a datblygiad y gweithlu sy’n diwallu anghenion cleifion a gwasanaethau ledled Cymru. Mae’n fraint wirioneddol i fod yn rhan o dîm mor ymroddedig i ragoriaeth ac arloesedd ym maes gofal iechyd."
Dywedodd Tom Lawson, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro AaGIC, "Rydym wrth ein bodd bod Elen wedi derbyn y rôl fel Deon Fferylliaeth yn AaGIC, mae hi'n dod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad a fydd yn ein harwain i lunio dyfodol y gweithlu fferylliaeth yng Nghymru."