Neidio i'r prif gynnwy

Mae AaGIC yn hyfforddi timau nyrsio ac amenedigol tosturiol i wella ansawdd gofal a lles staff

Mae Cynllun Strategol y Gweithlu Nyrsio ar gyfer Cymru 2025-2030 a'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Amenedigol yn canolbwyntio ar:

1. Tyfu'r gweithlu

2. Addysg a hyfforddiant

3. Arweinyddiaeth a diwylliant

4. Trawsnewid y gweithlu

Er mwyn gweithredu'r camau gweithredu yn y cynlluniau rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i gyflawni sawl menter ar draws GIG Cymru.

Mae ein tîm Trawsnewid y Gweithlu Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cynllunio gweithdy dwy awr o'r enw “Eich tîm tosturiol perfformiad uchel”. Mae'n ddull hyfforddi'r hyfforddwr i gefnogi'n strategol y broses o ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol ar draws ein gweithlu nyrsio ac amenedigol yng Nghymru.

Mae'r dull 'hyfforddi'r hyfforddwr' hwn ar gyfer arweinyddiaeth dosturiol yn sicrhau cyrhaeddiad ehangach ac effaith barhaol, gan arfogi gweithwyr proffesiynol nyrsio ac amenedigol â'r offer i feithrin timau tosturiol, perfformio uchel sy'n gwella gofal cleifion.

Mae ein tîm Trawsnewid y Gweithlu Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi derbyn adborth rhagorol gan nyrsys sydd wedi mynychu gweithdai hyfforddi'r hyfforddwr "Tîm Tosturiol Perfformiad Uchel".

 

Beth yw tîm tosturiol sy'n perfformio'n uchel?

"Grŵp o bobl hollol wahanol sy'n ymddiried yn ei gilydd, yn cyfathrebu fel gweithwyr proffesiynol (neu o leiaf yn ceisio gwneud hynny), yn mynd i'r afael ag anawsterau, yn cyflawni pethau'n gyson, gan chwerthin ar hyd y ffordd."

Arweinyddiaeth Dosturiol

Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ei gwneud yn ofynnol i bobl wrando, deall, dangos empathi a chefnogi eraill. Mae hyn yn galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u hannog, fel y gallant gyrraedd eu potensial llawn a gwneud eu gorau yn y gwaith. Mewn lleoliadau iechyd a gofal, gall hyn arwain at:

  • amgylchedd gwaith a diwylliant cynhwysol a chadarnhaol
  • timau sydd yn ymgysylltu ac yn frwdfrydig
  • lles staff gwell
  • gofal a chanlyniadau o ansawdd uchel i gleifion.

Fel corff arweinyddiaeth cenedlaethol GIG Cymru, rydym yn hyrwyddo'r Addewid Arweinyddiaeth Dosturiol ac yn darparu adnoddau hyfforddi ar einHwb Arweinyddiaeth Dosturiol.

Cadw'r gweithlu

Mae cadw staff yn rhan hanfodol o gynnal a thyfu gweithlu ein GIG i ddiwallu'r galw cynyddol a newidiol am wasanaethau ledled Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein staff wedi bod yn gadael y GIG ar gyfradd uwch, oherwydd amrywiaeth o resymau profiad staff.

Mae gan bob un o’n cynlluniau gweithlu gamau gweithredu i gyflawni boddhad a chadw staff er mwyn cryfhau’r gweithlu yn y dyfodol.

Mae ein Hwb Cadw Staff Cenedlaethol yn canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau pendant mewn cadw staff ar draws GIG Cymru gyda ffocws arEgwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiolac ymrwymiadau ein haddewid pobl:

 

Nod ein hyfforddiant “tîm tosturiol perfformiad uchel” yw:

🔹gwella ansawdd gofal a chanlyniadau cleifion

🔹cynyddu boddhad, lles a chadw staff

🔹cryfhau galluoedd arweinyddiaeth

🔹cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy hyrwyddo gweithlu iachach a mwy gwydn a "Chymru Iachach".

Am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni a'n blaenoriaethau cysylltwch â: heiw.nursingworkforceplan@wales.nhs.uk neu heiw.perinatalworkforceplan@wales.nhs.uk