Cyhoeddwyd: 30/12/2025
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o rannu bod ei Raglen Iechyd Byd-eang Ysgolion Ymarfer Cyffredinol wedi sicrhau cyllid gan Taith, rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, ar gyfer 2026 a 2027.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn digwyddiad dathlu Taith yn y Senedd ym mis Tachwedd, lle daeth partneriaid ynghyd â Dr Ian Happs, o Addysg a Gwella Iechyd Cymru, i dynnu sylw at effaith y rhaglen a chyfleoedd y dyfodol. Mae Taith sydd yn “mynd â Chymru i’r byd a dod â’r byd i Gymru” yn galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio’n rhyngwladol, gan groesawu dysgwyr a phartneriaid o bob cwr o’r byd.
Rydym yn croesawu dysgwyr o'n sefydliadau partner. Rydym eisoes wedi cynnal dau gofrestrydd ymarfer cyffredinol o Cantabria, un ym mis Awst a mis Medi 2024 ac un yn 2025. Roedd hynny cyn derbyn cyllid Taith, ond nawr mae ein cydweithwyr yn Japan a Lesotho yn dewis ymgeiswyr o blith eu cofrestryddion Ymarfer Cyffredinol/Meddygaeth Deulu i deithio i Gymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Byddant yn cael eu cefnogi gan y cyllid gan Taith.
Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i Addysg a Gwella Iechyd Cymru gynnig cyfle iddynt dreulio hyd at wyth wythnos gyda sefydliadau partner yn Lesotho, Japan a Sbaen, gan ehangu eu dealltwriaeth o fodelau amrywiol o ofal sylfaenol ledled y byd.
Drwy arsylwi gwahanol fodelau o ofal sylfaenol, gall cofrestryddion ddod â syniadau a dulliau newydd yn ôl sy'n gwella gofal cleifion ac yn cryfhau gwasanaethau yng Nghymru. Mae'r profiadau hyn yn helpu i lunio ymarferwyr hyblyg a blaengar – gan adlewyrchu ymrwymiad AaGIC i addysg a hyfforddiant rhagorol a'i huchelgais i adeiladu gweithlu medrus ar gyfer Cymru iachach. Mae'r grant yn talu am deithio a chynhaliaeth i bedwar cofrestrydd bob blwyddyn, gan sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn atal cyfranogiad.
Dywedodd Dr Alistair Bennett, Pennaeth yr Ysgol,
“Rwyf wrth fy modd bod yr arian grant gan Taith yn helpu i gefnogi ein cofrestryddion meddygon teulu ac adeiladu perthnasoedd proffesiynol rhwng Cymru a Lesotho, Japan a Sbaen. Mae'r rhaglen yn gyfnewidfa ddwyffordd, gan hyrwyddo dysgu cydfuddiannol a gofal iechyd cydweithredol.”
Ychwanegodd Dr Ian Happs, Arweinydd Iechyd Byd-eang AaGIC ar gyfer Ymarfer Cyffredinol:
“Mae hwn yn gyfle gwych i Addysg a Gwella Iechyd ac i gofrestryddion yng Nghymru. Drwy ddysgu o wahanol fodelau gofal sylfaenol, bydd ein cofrestryddion yn dod â mewnwelediadau yn ôl a all wella gofal cleifion a chryfhau gwasanaethau yma yng Nghymru. Mae'n anhygoel cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru, drwy Taith, i hyrwyddo cyfeillgarwch rhyngwladol hanfodol a rhannu profiadau dysgu ledled y byd.”
Mae'r lleoliadau cyntaf ar gyfer 2026 yn Lesotho yn ystod mis Ebrill a mis Mai, os ydych chi'n feddyg teulu ac yn awyddus i gymryd rhan mae angen i chi gyflwyno cais trwy'r ffurflen sydd ynghlwm erbyn hanner nos ddydd Mercher 31 Rhagfyr 2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad yng Nghaerdydd ddydd Mercher 21 Ionawr 2026 . Bydd y cyfle yn amodol ar gyflawni canlyniad 1 yn yr ARCP ar ddiwedd ST1.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan:
Dr Faye Stockton, Deon Cyswllt, AaGIC faye.stockton@wales.nhs.uk
Dr Ian Happs, Arweinydd Iechyd Byd-eang, AaGIC ian.happs@wales.nhs.uk