Neidio i'r prif gynnwy

Mae AaGIC yn cefnogi Ymgyrch Nyrsio #YmaAmFywyd

Heddiw, sef dydd Iau 12 Mai 2022, yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs.

I nodi’r achlysur, rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Yma Am Fywyd’ Uwch Swyddion Nyrsio y DU a Gogledd Iwerddon. Mae’r ymgyrch hon yn anrhydeddu swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiol y nyrsys a bydwragedd yn ogystal â’u cyflawniadau anhygoeol, a hynny mewn lleoliadau clinigol ac anghlinigol ledled y DU.

Mae’r ymgyrch yn cydnabod y gall fod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith aelodau’r cyhoedd yn aml ynglŷn â phwy yw nyrsys a bydwragedd, a’r hyn maen nhw’n ei wneud.

Nod Yma Am Fywyd yw grymuso nyrsys a bydwragedd i ddweud eu hanesion eu hunain, fel bydd y cyhoedd yn datblygu dealltwriaeth fwy cyflawn o ehangder ac amrywiaeth swyddogaeth ac arbenigedd nyrsys a bydwragedd – a’r rhan hanfodol y mae’r proffesiynau hyn yn ei chwarae o ran iechyd a gofal cleifion unigol yn ogystal â’r gwasanaethau iechyd a gofal yn eu cyfanrwydd.

Yn AaGIC, mae ein tîm nyrsio yn falch o gael cydweithio â holl sefydliadau GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru, gan chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a recriwtio nyrsys a bydwragedd sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol a gofal sylfaenol yng Nghymru.

Meddai Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Addysg Nyrsio a Phroffesiynol yn AaGIC, “Heddiw, rydyn ni’n parhau i anrhydeddu ein holl gydweithwyr a hyfforddeion nyrsio a bydwreigiaeth am eu hymroddiad ac am y gofal bendigedig maen nhw’n ei roi i bobl Cymru bob dydd.

“Er gwaethaf heriau Covid-19, maen nhw wedi parhau i ddangos dewrder, tosturi a phroffesiynoldeb wrth chware rhan hanfodol yn y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ac rydyn ni’n gobeithio bydd eu hanesion a’u llwyddiannau yn annog eraill i ystyried ymgymryd â’r yrfa hon sydd nid un unig yn hanfodol, ond sy’n rhoi boddhad mawr hefyd.”  

Dyma gyfle i chi glywed am swyddogaethau amrywiol aelodau o staff AaGIC, sef Simon, Emma a Lisa, ac am y rhan hanfodol mae’u timau yn ei chwarae wrth fod yn gefn i’r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru.