Cyhoeddwyd 16 Gorffennaf 2025
Rydym yn falch o gyhoeddi bod dau o'n prosiectau wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau mawreddog GIG Cymru 2025.
Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn ansawdd a gwelliant ar draws iechyd a gofal yng Nghymru. Wedi'u trefnu gan gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella ar ran Perfformiad a Gwella GIG Cymru, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at waith timau sy'n trawsnewid gwasanaethau a chanlyniadau i bobl Cymru.
Rydym wedi cael ein cydnabod mewn dau gategori:
Mae'r enwebiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i arloesi, cydweithio a gwelliant parhaus mewn addysg a datblygu'r gweithlu.
Prosiect Archwiliad Corfforol y Newydd-anedig a Babanod Cymru (NIPEC)
“Rydym wrth ein bodd yn gweld ein timau’n cael eu cydnabod am eu hymroddiad i wella gofal a datblygu gweithlu’r dyfodol yng Nghymru. Mae'r enwebiadau hyn yn dyst i'r ysbryd cydweithredol a'r arloesedd sy'n diffinio AaGIC.”
Rebecca Boore — Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid y Gweithlu — Nyrsio a Bydwreigiaeth
"Mae datblygu adnoddau addysgol o ansawdd uchel ar gyfer Archwiliadau Corfforol y Newydd-anedig a Babanod Cymru (NIPEC) wedi cael effaith drawsnewidiol ar ymarfer clinigol. Mae'r adnoddau hyn nid yn unig yn gwella hyder a chymhwysedd gweithwyr proffesiynol sy'n cynnal yr archwiliad ond maent hefyd yn helpu i sicrhau bod pryderon iechyd posibl mewn babanod newydd-anedig a babanod yn cael eu hadnabod yn gynnar."
— Dr Rachel Hayward (Neonatolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)
“Drwy gydweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a chydweithwyr ar draws GIG Cymru rydym wedi cyfrannu at ddatblygu adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynnal archwiliadau’n hyderus ac yn gymwys.”
— Dr Heather Payne, Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru
Prosiect lleoliadau Nyrsio mewn ymarfer cyffredinol
“Mae lleoliadau ysbrydoledig o ansawdd uchel yn hanfodol i sicrhau piblinellau gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol yn y dyfodol. Rydym yn falch o fod wedi gweithio'n agos gyda Practisau Meddygon Teulu, darparwyr addysg, a gwasanaethau cymdogaeth ehangach i alluogi myfyrwyr nyrsio i ennill profiadau gwerthfawr o ddarpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol wrth weithio o fewn timau gofal iechyd aml-broffesiynol ar eu taith i gofrestru'n broffesiynol.
— Simon Cassidy Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau AaGIC
“Dydw i ddim yn credu bod pobl wir yn deall rôl Nyrsys Ymarfer Cyffredinol. Mae angen i ni ddangos i fyfyrwyr pa mor heriol y gall y rôl fod, yn ogystal â'r cyfleoedd sy'n dod gyda'r rôl.”
— Nikki Hayes, Nyrs Ymarfer Cyffredinol yn Llan Healthcare
Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol nawr yn cymryd rhan mewn ymweliadau safle rhithwir gyda phaneli beirniadu i archwilio ein prosiectau yn fanylach. Cyhoeddir yr enillwyr mewn digwyddiad dathlu a dysgu ddydd Iau 18 Tachwedd 2025.
📍 Y rhestr fer lawn