Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant recriwtio ar gyfer hyfforddiant arbenigol meddygol yng Nghymru

Mae ffigurau a gyhoeddwyd 25 Gorffennaf 2023 gan GIG Lloegr ar ran y pedair gwlad yn dangos bod cyfraddau llenwi ar gyfer rhaglenni hyfforddiant arbenigol meddygol ôl-raddedig yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel.

Mae mwy o feddygon iau wedi’u penodi i ddechrau hyfforddiant arbenigol ym mis Awst 2023 o gymharu ag Awst 2022, gyda’r rhan fwyaf o arbenigeddau’n cyflawni cyfradd llenwi o 100 y cant, neu’n agos at 100 y cant.

Mae'r cynnydd hwn yn nifer yr hyfforddeion meddygol sy'n dewis dilyn hyfforddiant Craidd, Arbenigedd ac Uwch yng Nghymru yn dynodi blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer recriwtio a diddordeb parhaus yng Nghymru fel lle dymunol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

Fel gwledydd eraill y DU, gwelwyd cyfraddau llenwi is mewn rhai rhaglenni hyfforddiant arbenigol yng Nghymru, megis Obstetreg a Gynaecoleg, Meddygaeth Geriatreg a rhai Arbenigeddau Seiciatreg.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru ac arweinydd ar gyfer recriwtio hyfforddiant arbenigol meddygol yng Nghymru, yn parhau i weithio’n agos gydag arbenigeddau a phartneriaid i adolygu strategaethau recriwtio a chadw er mwyn gwella cyfraddau llenwi yn y meysydd hyn, ac arbenigeddau eraill sydd ag agoriadau hirsefydlog.

Bydd rownd arall o geisiadau i lenwi’r arbenigeddau hynny sydd gyda swyddi gwag disgwyliedig yn y dyfodol yn agor ddiwedd y mis hwn (Gorffennaf 2023), gyda hyfforddiant ar gyfer y swyddi hyn i ddechrau ym mis Chwefror 2024.

Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Rwy’n falch iawn i groesawu'r meddygon hyn i’n rhaglen hyfforddi. Pob blwyddyn rydym yn gweld mwy o feddygon yn ymuno gyda ni o Gymru ac ar draws y byd. Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i ddarparu’r hyfforddiant orau phosib, fel eu bod nhw’n barod i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r cleifion ymhob lleoliad clinigol.”

Ceir dadansoddiad llawn o'r ffigurau cyfradd llenwi yma.

 

Cyhoeddwyd 26 Gorffennaf 2023