Cyhoeddwyd: 22/12/2025
Roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o chwarae rhan weithredol yng Nghynhadledd Datblygu Rhagoriaeth mewn Addysg Feddygol (DEMEC25) eleni, a gynhaliwyd ar 8–9 Rhagfyr yn ICC Birmingham. Daeth y digwyddiad ag arweinwyr ac arloeswyr o bob cwr o'r DU ynghyd i archwilio dyfodol addysg feddygol a datblygu'r gweithlu.
Roedd cynrychiolaeth dda gan AaGIC drwy gydol y rhaglen, gan ddangos ein hymrwymiad i addysg gynhwysol, datblygu arweinyddiaeth a chynllunio'r gweithlu.
Roedd nifer o gyfarwyddwyr ein deoniaeth feddygol a'n cyfarwyddwr meddygol yn rhan o gyfarfodydd llawn a gweithdai/symposia gan gynnwys ar bynciau'n ymwneud â blaenoriaethau addysg a hyfforddiant cenedlaethol a niwroamrywiaeth. Cyd-gadeiriodd ein dau Gymrawd Arweinyddiaeth Glinigol Cymru yn AaGIC, Parisa Torabi a Matthew Spencer, gyflwyniadau crynodeb. Roedd cynrychiolaeth dda o AaGIC mewn cyhoeddiadau posteri gan gynnwys dychwelyd i hyfforddiant a phrofiadau meddygon niwroamrywiol.
Ochr yn ochr â'r sesiynau hyn, cynhaliodd AaGIC stondin arddangos, gan ymgysylltu â chydweithwyr o bob cwr o'r DU i rannu mewnwelediadau ar gynllunio'r gweithlu, recriwtio, cadw staff, a pharatoi GIG Cymru ar gyfer y dyfodol.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Ian Collings, Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol “mae cyfleoedd fel DEMEC o bwys a gwerth enfawr, nid yn unig mae gennym y cyfle i weld ein gilydd y tu allan i’r byd rhithwir, ond mae gennym hefyd y cyfle i gydweithio ar lefel genedlaethol a rhyngwladol”.
Diolch i bawb a ymunodd â ni yn DEMEC25. Edrychwn ymlaen at barhau â'r sgyrsiau hyn a llunio dyfodol iechyd a gofal gyda'n gilydd.