Neidio i'r prif gynnwy

Llunio dyfodol arweinyddiaeth Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) yng Nghymru

Cyhoeddedig: 06/02/2025

Ym mis Rhagfyr 2024, cynhaliodd Tîm Trawsnewid Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) arolwg i archwilio datblygiad arweinyddiaeth AHP ledled Cymru. Derbyniodd yr arolwg 160 o ymatebion ar draws deuddeg o ddisgyblaethau AHP gwahanol ledled Cymru, gan ddangos diddordeb sylweddol mewn datblygu a chydnabod rolau arwain AHP.

Dewiswyd y Therapydd Galwedigaethol Heather Ellis o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar hap fel enillydd o’r raffl a chyflwynir ei gwobr, “Arweinyddiaeth Dosturiol gan Michael West”.

Mae Louise Steer, Arweinydd Clinigol Trawsnewid Gweithlu AHP yn AaGIC, ar hyn o bryd yn dadansoddi data a gwybodaeth yr arolwg i well llunio dyfodol arweinyddiaeth AHP yng Nghymru. Bwriad AaGIC yw nodi ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ddilyniant drwy archwilio'r themâu hyn. Wedi’i atgyfnerthu gan yr arolwg, bydd y dadansoddiad cynhwysfawr hwn yn ymdrin â’r data ansoddol a meintiol, gan ganolbwyntio ar y rhwystrau i arweinyddiaeth, galluogwyr, cyfleoedd, a mynediad i ddatblygiad.

Dywedodd Nicky Thomas, Cyfarwyddwr Cyswllt AHP Trawsnewid Gweithlu ar gyfer AaGIC:

“Mae arolygu ac ymgysylltu â Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar bob lefel, ar draws arbenigeddau ynghylch eu hanghenion datblygu arweinyddiaeth, yn sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir yn berthnasol, yn effeithiol, ac yn wirioneddol rymuso arweinwyr AHP y dyfodol”

Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn llywio llwybrau arweinyddiaeth yn y dyfodol a hyfforddiant wedi'i deilwra i anghenion pob proffesiwn AHP. Bydd y gwaith hwn yn nodi'r heriau presennol ac yn gwella amlygrwydd cyfleoedd datblygu ar gyfer darpar arweinwyr ac arweinwyr AHP cyfredol. Mae nifer yr ymatebion a dderbyniwyd yn dangos yr awydd i feithrin arweinyddiaeth o fewn y gymuned AHP, gan sicrhau gweithlu gofal iechyd cadarn a deinamig ar gyfer y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â heiw.ahp@wales.nhs.uk