Neidio i'r prif gynnwy

Lansio'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o lansio'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ochr yn ochr â'r Cynllun Gweithlu Strategol Deintyddol.

Mae’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol wedi’i greu mewn partneriaeth â’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) ac mewn cydweithrediad ag ystod eang o randdeiliaid.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC:

“Mae AaGIC wedi bod yn gweithio i ehangu a gwella addysg, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu ym maes gofal sylfaenol ers ei sefydlu, ond bydd lansio’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn rhoi hyd yn oed mwy o fomentwm i gefnogi datblygiad gweithlu gofal sylfaenol cynaliadwy yn unol â  'Cymru Iachach' a'r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal."

Mae’r cynllun yn nodi 26 o gamau gweithredu a fydd yn cefnogi’r nodau i wella’r gwasanaethau gofal sylfaenol a gynigir yn GIG Cymru. Mae'r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar forâl y gweithlu a chefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol i ddatblygu eu rolau i greu gwasanaethau cynaliadwy.

Dywedodd Sue Morgan, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gofal Sylfaenol:

“Mae’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn elfen allweddol o gyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.  Mae lefelau ymgysylltu gofal sylfaenol ledled Cymru ar ddatblygu’r cynllun wedi dangos yr awydd am gynllun o’r fath, ac mae AaGIC a’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith gyda phartneriaid yn gyflym.”

Cyhoeddwyd y cynlluniau’n ffurfiol yn ystod Cynhadledd Rhanddeiliaid Addysg a Hyfforddiant Gofal Sylfaenol a Chymunedol AaGIC, ddydd Mercher 15 o Fai, 2024.

Cyflwynodd Dorothy Edwards, Gweithlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Rhaglenni Cenedlaethol, y Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol i fynychwyr cynhadledd, a groesawodd sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd o bob rhan o’r sector gofal sylfaenol.

Roedd y gynhadledd yn arddangos nifer o gyflwyniadau trwy gydol y dydd, gan gynnwys sgyrsiau gan:

  • Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC
  • Dave Dayman, The Successfactory
  • Eluned Morgan MSm Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Judith Paget, CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru
  • Sue Morgan, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gofal Sylfaenol