Cyhoeddwyd 05/10/2023
Rydym wedi rhyddhau Safonau Arfer Gorau Adsefydlu Cymunedol Cymru Gyfan newydd ac adnoddau digidol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) sy’n darparu gwasanaethau adsefydlu, a phobl sydd angen mynediad atynt.
Mae’r galw am wasanaethau adsefydlu yn cynyddu. Mae hyn oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, mwy o bobl yn byw gydag eiddilwch, cyflyrau cymhleth hirdymor, dadelfennu (gostyngiad mewn gweithrediad corfforol) ac effaith y pandemig ar iechyd a lles pobl.
Dywedodd Ruth Crowder; Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Llywodraeth Cymru
“Datblygu’r safonau arfer gorau adsefydlu hyn yw’r cam nesaf yn ein gwaith o drawsnewid gwasanaethau i sicrhau canlyniadau o’r ansawdd uchaf i boblogaethau Cymru a’r profiad gorau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.
Ers cyhoeddi Fframwaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymru yn 2019, rydym wedi parhau i foderneiddio a datblygu gwasanaethau sy’n defnyddio sgiliau unigryw’r proffesiynau perthynol i iechyd a’r gweithlu iechyd a gofal ehangach i ddarparu’r gwerth uchaf yn ein gwasanaethau.”
Lawrlwythwch y safonau yma: Safonau arfer gorau adsefydlu cymunedol Cymru gyfan - Medi 2023
Mae Safonau Arfer Gorau Adsefydlu Cymunedol Cymru Gyfan wedi’u cynllunio i:
Mae'r safonau'n cynnwys dau offeryn hunan-archwilio: un ar gyfer darparwyr gwasanaeth ac un ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Bydd y rhain yn helpu pobl sy'n gweithio ym maes adsefydlu i weld sut mae eu gwasanaeth yn bodloni'r safonau hyn. Bydd yn nodi'r galluogwyr ansawdd sydd angen eu gwella a bydd y ddogfen yn darparu adnoddau i'w gwella. Bydd hefyd yn gweithredu fel llwyfan i bobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau adsefydlu a’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau adsefydlu, i roi adborth ar eu profiad fel y gallwn barhau i wella.
Yn ogystal, rydym wedi dylunio templedi Microsoft Form enghreifftiol ar gyfer timau neu wasanaethau. Bydd y rhain yn eich cefnogi ymhellach i gasglu adborth gan ymarferwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth mewn fformat arall.
Mae’r safonau a’r galluogwyr ansawdd hyn wedi’u datblygu i gefnogi Fframwaith Adsefydlu Cymru Gyfan (2022) drwy ddarparu safonau mwy penodol ar gyfer adsefydlu cymunedol.