22/10/2025
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o groesawu carfan 2025/26 o Gymrodyr Arweinyddiaeth Glinigol Cymru wrth iddynt ddechrau eu blwyddyn Gymrodoriaeth.
Mae'r Gymrodoriaeth yn dwyn ynghyd gymuned fywiog, amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol sy'n angerddol am yrru arloesedd, gwella gofal cleifion, a llunio dyfodol arweinyddiaeth glinigol ledled Cymru.
Mae'r flwyddyn hon yn nodi pennod gyffrous arall i'r rhaglen, sy'n parhau i dyfu ac esblygu. Bydd cyfle gan gymrodyr i ymgysylltu â thirwedd ehangach y GIG, dylanwadu ar newid cadarnhaol, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn arweinwyr hyderus a galluog.
Drwy gydol y flwyddyn, bydd Cymrodyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu, o gysgodi uwch arweinwyr i fynychu cyfarfodydd allweddol ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol ar draws sefydliadau. Mae'r profiadau hyn yn amhrisiadwy wrth baratoi Cymrodyr i arwain gyda gweledigaeth a hyder.
Bydd AaGIC yn parhau i ddarparu cefnogaeth ymroddedig i Gymrodyr a goruchwylwyr er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn brofiad gwerth chweil ac effeithiol i bawb sy'n cymryd rhan.
Dywedodd Dr Ian Collings, Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol :
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein Cymrodyr newydd a’u goruchwylwyr. Mae'r Gymrodoriaeth yn brofiad unigryw a thrawsnewidiol, wedi'i chynllunio i herio, ysbrydoli a chefnogi datblygiad arweinwyr gofal iechyd y dyfodol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weld yr effaith y bydd carfan eleni yn ei chael.”
Dymunwn bob llwyddiant i'n Cymrodyr newydd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt gychwyn ar y daith gyffrous hon.
Am ragor o wybodaeth am Gymrodoriaeth Arweinyddiaeth Glinigol Cymru, cysylltwch â: heiw.wcltf@wales.nhs.uk