Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn hynod hapus i gyhoeddi lansio Cwrs e-Ddysgu ar y Model Anableddau Gwybyddol ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol. Mae'r cwrs hwn wedi'i greu gan therapyddion galwedigaethol a phobl sy'n byw gyda dementia ledled Cymru. Mae wedi'i lywio gan fodel Anabledd Gwybyddol Allen.
Mae'r cwrs yn rhoi'r wybodaeth i therapyddion galwedigaethol i ystyried newidiadau i'r ymennydd sy'n achosi nam gwybyddol yng nghyd-destun gwybyddiaeth swyddogaethol. Mae'n rhoi'r sgiliau a'r hyder i ddysgwyr i ddarparu asesiadau, ymyriadau, strategaethau a chymorth i alluogi pobl sy'n byw gyda dementia i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'n canolbwyntio ar gyflawniad galwedigaethol a grymuso pobl drwy nodi eu cryfderau a'u hanghenion.
Dywedodd Nicky Thomas, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid y Gweithlu AHP ar gyfer AaGIC:
“Mae tîm AHP yn AaGIC wedi bod wrth eu bodd yn cynorthwyo datblygiad yr adnodd hwn. Mae wedi bod yn brosiect cyffrous yn defnyddio potensial Y Tŷ Dysgu, platfform dysgu digidol Addysg a Gwella Cymru. Mae'r cwrs yn gyfuniad o ennill gwybodaeth trwy adnoddau dysgu digidol hunangyfeiriedig wedi'u rhyngblethu â darlithoedd ar-lein, aseiniadau a chymorth gan fentoriaid lleol. Mae hyn yn helpu’r broses o drosglwyddo gwybodaeth i ymarfer clinigol. Bydd yn cael ei gyflwyno ar sail Cymru gyfan, gan helpu dysgu a rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau sefydliadol.
Mae'r cwrs yn cael ei gydlynu a'i gyflwyno ar sail Cymru gyfan gan Grŵp Diddordeb Gwybyddol Allen Cymru a fydd yn penderfynu ble mae angen y cwrs e-ddysgu. Mae'r dull hwn yn galluogi mynediad cyfartal at hyfforddiant i therapyddion galwedigaethol ledled Cymru, gan gynorthwyo datblygiad gweithlu therapyddion galwedigaethol medrus iawn ar draws lleoliadau sefydliadol a chlinigol.
Am ragor o wybodaeth am y cwrs SDM, cysylltwch â HEIW.AHP@wales.nhs.uk