Cyhoeddwyd 09/11/2023
Mae archwiliad corfforol babanod a newydd-anedig Cymru (NIPEC) yn cael ei gynnig i bob baban yng Nghymru. Prif amcanion yr archwiliad yw:
Rydym wedi datblygu set o adnoddau i gefnogi ymarferwyr NIPEC gyda'u datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gyda'r nod o safoni'r dull gweithredu ledled Cymru.
Adnoddau
Rhaid i'r archwiliad NIPEC gael ei gwblhau gan ymarferydd hyfforddedig sy'n gymwys i ymgymryd â phob elfen o'r arholiad sgrinio newydd-anedig ac sydd wedi cael hyfforddiant perthnasol. Gall hyn fod yn fydwraig, nyrs, ymwelydd iechyd, meddyg, neu feddyg cyswllt.
Mae'n bleser gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru gyhoeddi lansiad adnoddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) archwiliad corfforol babanod a newydd-anedig Cymru (NIPEC), gan gynnwys modiwl e-ddysgu i gefnogi ymarferwyr NIPEC o bob rhan o Gymru. Bydd y rhain yn cyd-fynd â Chanllawiau a Safonau newydd Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi dull Cymru Gyfan o Archwiliad NIPEC a DPP, a fydd o fudd i'n poblogaeth ifanc iawn yng Nghymru.
Lisa Llewellyn, Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Nyrsio ac Iechyd Proffesiynol, AaGIC
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yma: Archwiliad Corfforol y Newydd-anedig a'r Babanod Cymru (NIPEC) - AaGIC (gig.cymru)