Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Agored Cymru i ddatblygu, darparu a asesu cymwysterau ar gyfer GIG Cymru. Mae'r bartneriaeth rhyngddynt yn ffynnu, yn enwedig wrth ennill 'Perthynas Cyflogwr y Flwyddyn' yng Ngwobrau Fab 2024 yn ddiweddar.
Yn unol â gweledigaeth AaGIC “i ddatblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth”, mae AaGIC yn gweithio'n barhaus i sicrhau gwelliannau mewn hyfforddiant a chymwysterau gofal iechyd ledled Cymru.
Rheoli meddyginiaethau
Mae AaGIC wrth ei fodd â'r niferoedd sylweddol sy'n manteisio ar yr Hyfforddiant Gweinyddu Meddyginiaethau sydd newydd ei ddiweddaru. Mae’r rhaglen, sydd bellach ar gael drwy’r Tŷ Dysgu, yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws GIG Cymru i ddatblygu eu sgiliau rheoli meddyginiaethau.
Mae'r hyfforddiant wedi denu diddordeb sylweddol, gyda 626 o ddysgwyr wedi'u cofrestru a 426 wedi cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus hyd yma. Mae'r cyfranogiad eang hwn yn gosod sylfaen gref ar gyfer cyfleoedd dysgu pellach yn y maes.
Cymwysterau
Mae diweddariadau newydd wedi'u hychwanegu at fframweithiau prentisiaeth sy'n cynnwys ychwanegu cymwysterau sy’n seiliedig ar iechyd. Mae hwn yn gam gwych ymlaen gan ei fod yn helpu i annog datblygiad staff, yn unol ag anghenion y gwasanaeth.
Mae’r cymwysterau newydd yn cynnwys:
Mae AaGIC yn annog gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn llunio cymwysterau yn y dyfodol i ymuno â grwpiau adolygu gorchwyl a gorffen neu grwpiau datblygu achrediad. Gall unigolion sydd â diddordeb gysylltu â thîm Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith AaGIC i gael rhagor o wybodaeth.
Menter gyflawni Cymru gyfan newydd
Mae AaGIC wedi helpu Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru (NIAW) gyda dulliau sicrhau ansawdd wrth sefydlu fel Canolfan Agored Cymru gydnabyddedig i gyflwyno ac asesu cymwysterau achrededig i Gymru.
Y mentrau newydd a gyflwynir gan NIAW yw: