Rydyn ni'n eich gwadd i gymryd rhan i sicrhau clust i’ch llais
Gweminar Comisiwn y DU ar Arweinyddiaeth Broffesiynol ym maes Fferylliaeth
Mae'r gweminar hwn bellach wedi'i chynnal
Galwad am Dystiolaeth Arweinyddiaeth Broffesiynol ym maes Fferylliaeth: Gweminar Cymru
Mae arweinyddiaeth broffesiynol ym maes fferylliaeth bellach yn bwysicach nag erioed. Mae yna newidiadau sylweddol yn effeithio ar dechnegwyr fferyllol a fferyllwyr nawr ac i’r dyfodol. Rhaid i ni sicrhau bod y proffesiynau wedi’u cyfarparu’n briodol, â’r llais i gyflunio’r dyfodol ac wedi’u grymuso i ddatblygu drwy rannu arferion gorau a dysgu yn eu sgil.
Sefydlwyd Comisiwn y DU ar Arweinyddiaeth Broffesiynol ym maes Fferylliaeth gan Brif Swyddogion Fferyllol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn llunio argymhellion ar gyfer dyfodol arweinyddiaeth broffesiynol ym maes fferylliaeth yn y DU. Ymunwch â’r weminar i gael gwybod mwy am waith y Comisiwn a rhannu’ch barn am arweinyddiaeth broffesiynol ym maes fferylliaeth.
Cyflwynwyr: