Rydym wrth ein bodd yn cynnal cyfres o weminarau lles am ddim i gydweithwyr GIG Cymru. Ar ôl gyrfa gorfforaethol 30 mlynedd a arweiniodd at or-flinder, trodd Beverley ei phrofiad yn genhadaeth i helpu eraill i osgoi'r un profiad. Bellach yn siaradwr ysbrydoledig a mentor lles, mae Beverley yn dod â'i phrofiad personol yn fyw yn y gyfres ar-lein am ddim hon a gynlluniwyd i gefnogi cydweithwyr ledled Cymru gyda mewnwelediadau ymarferol i gydnabod a rheoli teimladau o or-flinder, pwysau ariannol a phroblemau iechyd meddwl.
Cynhelir y sesiynau drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror 2026, cofrestrwch drwy'r dolenni isod:
Arweiniodd taith gor-flinder Beverley hi ar hyd llwybr o ddyled ac ofn, gan waethygu ei heriau iechyd meddwl. Yn ei sgwrs, mae Beverley yn rhannu ei brwydrau’n agored ac wrth wneud hynny, mae’n rhoi gwybod i eraill fod yna obaith.
Bydd hi'n rhannu'r offer a'r sefydliadau a'i helpodd ar y pryd. Bydd pob mynychwr yn derbyn e-lyfr am ddim, 'Llesiant Ariannol a'i gysylltiad ag Iechyd Meddwl'.
Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar fel arfer pwerus a hygyrch i gefnogi eglurder meddyliol, gwydnwch emosiynol a lleihau straen. Bydd Beverley Jones yn tywys y mynychwyr drwy dechnegau syml ac effeithiol i ddod ag ymwybyddiaeth ystyriol i'w harferion beunyddiol, boed yn y gwaith, gartref, neu mewn adegau o drawsnewid rhwng y ddau. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut y gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar rheolaidd wella ffocws, gwella gwneud penderfyniadau a chefnogi hunanreoleiddio emosiynol. Gyda dulliau ymarferol a chymwysiadau bywyd go iawn, mae'r sesiwn hon yn grymuso gweithwyr proffesiynol i wirio gyda'u hunain yn emosiynol, creu lle i dawelu a meithrin gwydnwch, un foment ymwybodol ar y tro. Bydd pob mynychwr yn derbyn e-lyfr am ddim, 'Sut i osgoi gor-flinder'.
Yn y sesiwn egnïol hon, mae Beverley Jones yn ail-lunio hunanofal fel angenrheidrwydd dyddiol, nid moethusrwydd. Gan dynnu ar brofiad personol a mewnwelediad proffesiynol, mae hi'n grymuso'r mynychwyr i flaenoriaethu eu lles heb euogrwydd, gan ddangos nad yw hunanofal yn hunanol, mae'n hanfodol.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut y gall esgeuluso eu hanghenion eu hunain gyflymu gor-flinder a lleihau gwydnwch, a dysgu sut y gall camau gweithredu syml a chyson amddiffyn eu hegni a'u hiechyd emosiynol. Gyda dulliau ymarferol, strategaethau gosod ffiniau, a thechnegau “saib” bob dydd, mae’r sesiwn hon yn cynnig llwybr clir at hunangadwraeth gynaliadwy. Bydd y mynychwyr yn gadael gydag eglurder newydd, awgrymiadau ymarferol, a'r hyder i amddiffyn y pethau sydd yn bywsig iddynt oherwydd mae gofalu amdanoch chi'ch hun yw'r cam cyntaf i gefnogi eraill.