Y Fframwaith Gallu Digidol (DCF) ar Y Tŷ Dysgu wedi'i ddiweddaru i gynnig cyflwyniad symlach a rhyngweithiol i'r adnodd hunanwerthuso.
Mae hyn yn golygu bod y DCF yn fwy effeithlon ac yn haws ei gyrchu a'i ddefnyddio, gan arwain at well profiad i ddefnyddwyr ar gyfer staff gofal iechyd ledled Cymru.
Mae'r DCF yn cynnig yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gael y gorau o'r fframwaith a'ch helpu chi a'ch timau symud ymlaen ar eich taith datblygu gallu digidol.
Ar ôl cofrestru i Y Tŷ Dysgu, mae gan bob defnyddiwr fynediad i'r DCF.
Mewngofnodi unigol ar gyfer staff GIG Cymru
Mae cofrestru ar Y Ty Dysgu yn syml. Ar ôl cofrestru, bydd defnyddwyr GIG Cymru yn elwa o'r swyddogaeth mewngofnodi un waith, a gallent gael mynediad at Y Ty Dysgu yn rhwydd. Mae canllawiau cam wrth gam ar sut i gofrestru ar gael.
Canllawiau cam wrth gam ar gofrestru sydd ar gael.
Ymgorffori'r DCF mewn arfarniadau ac anwythiadau
Mae'r DCF yn cynnig cyfle i sefydliadau gefnogi eu staff i ddatblygu eu gallu digidol. Trwy ymgorffori hunanwerthusiad DCF mewn arfarniadau ac anwythiadau, mae gan staff y gallu i ddangos eu lefelau o allu digidol a nodi amcanion ar gyfer y 12 mis nesaf. Gall rheolwyr llinell ac arweinwyr gynnig y DCF fel adnodd ar gyfer datblygu a gweithredu mesuradwy.
Os oes gennych ddiddordeb mewn treialu'r DCF fel rhan o'ch proses arfarnu/PADR, cysylltwch â: Ellen Edwards, Arweinydd Ymchwil ac Ymgysylltu Trawsnewid Digidol.