Yn Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rydym wedi datblygu adran adnoddau a
fforwm gofrestru dros dro ar ein gwefan. Mae hyn i gefnogi fferyllwyr cofrestredig dros dro a gyflogir
ym mhob sector fferyllol yng Nghymru ac ar gyfer y rhai sy'n byw yng Nghymru sy'n gweithio tuag at
eu heisteddiad cyntaf o asesiad cofrestru'r GPhC; rhwng Awst 2020-Gorffennaf 2021.
Mae'r adran yma yn cynnwys adnoddau ac offer i roi cymorth:
Deallwn y caiff llawer o fferyllwyr sydd wedi'u cofrestru dros dro eu cyflogi gan sefydliadau mwy a
byddant yn cofrestru ar gyfer rhaglenni sefydledig yn ystod y cyfnod hwn, megis diploma clinigol neu
hyfforddiant sylfaen. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i gefnogi hyfforddeion sy'n gweithio ac yn
byw yng Nghymru, i'w galluogi i gael y budd mwyaf o'r cyfnod hwn.
Mae'r adran yn darparu fframweithiau cymhwysedd ar gyfer hunanasesu, gan gyfeirio at adnoddau
fferyllol cyffredinol a sector-benodol allweddol, ymwybyddiaeth o raglen DPP AaGIC sy'n rhedeg
drwy Hydref 2020, cynnig ffug-asesiad cofrestru a gwybodaeth ddiweddar am gofrestru dros dro.
Yn ogystal, mae'n cynnwys arwyddion i'r adnoddau cofrestru dros dro sydd ar gael gan y RPS, sydd ar
gael i bob aelod o'r RPS. Mae hyn yn cynnwys mynediad at E-Bortffolio penodol, sy'n cysylltu â'r
Fframwaith Fferyllwyr Sylfaen RPS diwygiedig.
Rydym hefyd yn annog y defnydd o fforwm, i fferyllwyr sydd wedi cofrestru dros dro ofyn
cwestiynau a dechrau trafodaethau gyda'u cymheiriaid.
I gael mynediad i'r adran hon, gofalwch eich bod wedi cofrestru ar gyfer cyfrif gyda Fferylliaeth
AaGIC, ac yna dilynwch y ddolen isod a chofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost priodol.