Neidio i'r prif gynnwy

Eleni, thema Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (5 – 9 Chwefror 2024) yw 'Sgiliau Bywyd'.

Gall prentisiaethau o fewn y GIG helpu unigolion i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil wrth ddatblygu gweithlu dawnus sydd â sgiliau ar gyfer y dyfodol. Maent yn rhoi cyfle i ennill cymhwyster achrededig a ariennir yn llawn yn sectorau clinigol ac anghlinigol GIG Cymru, yn ogystal ag uwchsgilio sgiliau rhifedd a chyfathrebu wrth ennill incwm.

Os ydych chi eisiau ennill arian, dysgu a gwneud gwahaniaeth, gallai prentisiaeth o fewn GIG Cymru fod y cam nesaf i chi.

Dyma ddetholiad o adnoddau, gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws GIG Cymru'r wythnos hon i helpu i annog unigolion i ystyried gwneud cais am brentisiaeth.

Mae ein hadnodd Tregyrfa yn darparu'r wybodaeth ddefnyddiol ganlynol;

  • Yn y sinema

Ymwelwch â sgrin 3 a sgroliwch drwodd i weld cyfres o fideos byr i ddarganfod mwy am brentisiaethau ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae gennym wybodaeth am Yrfaoedd y GIG a chyflwyniad ynghylch Chwalu'r Chwedlau

https://careersville.heiw.wales/careersville-page/5#heiw-cinema

 

  • Yn y Llyfrgell Sgiliau

Mae’r Llyfrgell Sgiliau yn cynnwys adnoddau gyrfa wych gan gynnwys awgrymiadau a chyngor ar sut i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer gyrfa yn GIG Cymru

https://careersville.heiw.wales/careersville-page/27#skills-library-and-y-gornel-gymraeg

 

  • Awgrymiadau Cyfweliad - Yn ystod y Cyfweliad

https://careersville.heiw.wales/assets/pdfs/Interview-Tips-during-the-interview_1681739986.pdf

 

  • Paratoi ffurflen gais llwyddiannus am swydd y GIG

https://careersville.heiw.wales/assets/pdfs/Preparing-your-application_1681740413.pdf

 

  • Gofalwn Cymru: prentisiaethau gofal plant gyda meithrinfeydd Mudiad Meithrin

https://careersville.heiw.wales/assets/pdfs/WeCare-Wales-Mudiad-Meithrin_1681740596.pdf

 

  • Hefyd ymwelwch â'r Tiwb Gyrfaoedd i ddysgu gan brentisiaid presennol GIG Cymru a gwylio'r gyfres adnoddau `Byddwch y Gorau y gallwch Fod`.

https://careersville.heiw.wales/careersville-page/30#careerstube-skills-library-and-y-gornel-gy

 

  • Yr Iaith Gymraeg

A chofiwch mai sgil bwysig ar gyfer gofal iechyd yw'r Gymraeg beth bynnag fo'ch lefel. Yma gan staff sy’n credu bod y Gymraeg yn chwarae rhan bwysig yn eu rôl bob dydd. 

https://careersville.heiw.wales/careersville-page/32#twibgyrfa-skills-library-and-y-gornel-gymraeg

 

  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a bydd rhai yn darparu gwybodaeth am brentisiaethau, yn ogystal â hyn bydd sesiynau wedi’u hanelu’n benodol at brentisiaethau mewn Sgiliau Digidol, Busnes Amin, ILM a Rheoli Prosiectau. I gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn cliciwch yma
  • Tynnodd cydweithwyr ar draws GIG Cymru sylw at Tregyrfa fel adnodd digidol gwych i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth o fewn GIG Cymru. Wedi’i ddatblygu gan ein tîm yn AaGIC, mae ein pentref gyrfa rithwir ar gyfer GIG Cymru yn cynnwys adeilad Llyfrgell Sgiliau, sy’n cynnig adnoddau defnyddiol i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y GIG. Mae hyn yn cynnwys cymorth ac arweiniad cyfweliad a cheisiadau, blogiau prentisiaeth a mwy.
  • Mae Academi Prentisiaethau arobryn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhannu cyngor a phrofiadau prentisiaeth gan aelodau newydd a phrentisiaethau presennol sydd wedi cwblhau prentisiaethau i uwchsgilio, ennill cymwysterau datblygu a gwneud cynnydd yn eu rolau. Mae yna gynnig gweithdy i reolwyr i helpu i droi swydd wag yn gyfle prentisiaeth, yn ogystal bydd sesiynau wedi'u hanelu'n benodol at brentisiaethau mewn ILM, gweinyddol, iechyd clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol a rheolaeth. I archebu lle ar y sesiwn Teams ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau hyn e-bostiwch CTM.Qualifications@Wales.NHS.UK
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal digwyddiad i ddathlu eu prentisiaid presennol, gan arddangos y llwybrau presennol sydd ar gael yn y bwrdd iechyd. Dros y pythefnos diwethaf, mae prentisiaid a staff wedi cael y cyfle i enwebu pobl sydd wedi eu cefnogi wrth ymgymryd â’u prentisiaeth a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno’n swyddogol. Cadwch lygad ar eu cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol am fideo a wnaed gan brentisiaid hen a newydd yn nodi’r hyn y maent wedi’i gyflawni/dysgu/edrych ymlaen at ddysgu ar eu llwybr. Chwiliwch @HBHywelDda ar Twitter i ddarganfod mwy.
  • Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy'n cwmpasu cyfleoedd prentisiaeth a gwybodaeth gyffredinol am brentisiaethau.