Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Sul y cofio eleni, mae practisau meddyg teulu ledled Cymru yn Anrhydeddu Cyn-filwyr gyda Gofal Tosturiol

Wrth i ni gofio aberthau ein Lluoedd Arfog y Sul y cofio hwn, mae practisau meddyg teulu ledled Cymru yn cymryd camau ystyrlon trwy ddod yn Bractisau Achrededig sy'n Gyfeillgar i Gyn-filwyr.

Mae'r achrediad hwn, dan arweiniad yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y practisau sy'n mynd y filltir ychwanegol i ddeall a gofalu am gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Mae 60 o bractisau meddyg teulu ledled Cymru eisoes wedi ymuno â'r fenter, a gall cyn-filwyr ddod o hyd i'w practis achrededig agosaf gan ddefnyddio ein map rhyngweithiol.

 

Pam Mae'n Bwysig

Yn aml, mae cyn-filwyr yn wynebu heriau iechyd sy'n gysylltiedig â'u hamser yn y gwasanaeth, boed yn anafiadau corfforol, yn anawsterau iechyd meddwl, neu'n syml yr angen i gael eu deall gan rywun sy'n cydnabod eu taith.

Dywedodd Dr Chris Price, Pennaeth yr Uned Cymorth Ailddilysu, AaGIC “Mae cyn-filwyr yn aml yn wynebu heriau iechyd unigryw sy’n gysylltiedig â’u hamser yn y gwasanaeth, a’n nod yw sicrhau eu bod yn derbyn y gydnabyddiaeth a’r gofal y maent yn ei haeddu. Mae dod yn bractis sy'n Gyfeillgar i Gyn-filwyr yn arwydd clir o gefnogaeth eich practis i gymuned y Lluoedd Arfog.”

 

Beth Mae Achredu yn ei Gynnwys

I gael achrediad, mae clinigwr enwebedig yn cwblhau'r modiwl Iechyd a Llesiant Cyn-filwyr, sy'n cynnwys:

  • Adolygu Canllawiau Statudol Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog
  • Sicrhau bod staff yn gofyn i gleifion newydd yn rheolaidd a ydynt yn gyn-filwyr neu'n aelodau o deulu personél sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a chofnodi hyn yn y system glinigol
  • Ymrwymo i ddysgu parhaus a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch iechyd cyn-filwyr

Y cam olaf yw datganiad sy'n cadarnhau bod y safonau hyn yn rhan o ymarfer bob dydd.

 

Effaith Go Iawn ar Bobl Go Iawn

Mae cyn-filwyr sy'n ymweld â phractisau achrededig yn aml yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gweld , eu clywed,  a'u deall yn fwy. Gall y newid syml hwnnw - gofyn cwestiynau am eu gwasanaeth, cael eu trin ag empathi, wneud gwahaniaeth mawr.

Mae'r fenter hon hefyd yn cefnogi ymrwymiad Cymru i Gyfamod y Lluoedd Arfog, ac yn cyd-fynd â nodau cenedlaethol ynghylch cydraddoldeb, cynhwysiant a gofal personol.

 

Sut Gall Eich Practis Gymryd Rhan

Dydd Sul y Cofio hwn, gall eich practis gymryd cam ystyrlon i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu. Mae achredu yn syml, ac mae'r effaith yn barhaol.

Ewch i Achrediad Practisau Meddyg Teulu sy'n Gyfeillgar i Gyn-filwyr yng Nghymru – AaGIC neu cysylltwch â heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk i ddechrau.