Neidio i'r prif gynnwy

Dr Sarah Bant o AaGIC yn derbyn Gwobr Cadeirydd yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd

Cyhoeddwyd 12/06/24

Mae Dr Sarah Bant o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi derbyn Gwobr Cadeirydd yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd.

Mae'r wobr yn cydnabod ymroddiad Dr Bant i'r proffesiwn gwyddor gofal iechyd a'i gwaith fel Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid Gweithlu, Gwyddor Gofal Iechyd yn AaGIC.

Mae Sarah yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn cael gofal o ansawdd uchel gan wasanaethau gwyddor gofal iechyd ar draws GIG Cymru trwy brosiectau trawsnewid gwasanaethau a mentrau datblygu gyrfa. Mae hi hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn gwyddor gofal iechyd yn weithredol, gan amlygu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol y mae gweithwyr gwyddor gofal iechyd proffesiynol yn eu cyflwyno i'r tîm gofal iechyd amlbroffesiynol ehangach.

Dywedodd Dr Sarah Bant “Mae’n anrhydedd derbyn y wobr hon gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd, ochr yn ochr â chydweithwyr yn GIG Cymru yn derbyn eu cymrodoriaethau er anrhydedd. Roedd yn wych gweld GIG Cymru yn cael ei werthfawrogi mewn niferoedd mor fawr ar achlysur mor fawreddog.”

Cyflwynwyd y wobr i Sarah mewn digwyddiad Cymrodoriaeth er Anrhydedd ar ddiwedd mis Mai, a gynhaliwyd gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd i gydnabod gwaith, gweledigaeth, cefnogaeth a mewnbwn unigolion sy’n cefnogi datblygiad a thwf yr Academi a’r proffesiwn gwyddor gofal iechyd ehangach. .

Cynrychiolwyd GIG Cymru yn eang yn y digwyddiad, gyda’r unigolion a ganlyn yn derbyn cymrodoriaethau er anrhydedd gan yr Academi:

  • Adrian Thomas, cyn Gyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd a chyn Gyd-Gadeirydd Bwrdd y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (wedi ymddeol).
  • Catherine Moore, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol mewn firoleg, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Clive Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Cadeirydd Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Helena Morgan, Pennaeth Niwroffisioleg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
  • Rob Orford, Prif Weithredwr Moondance a chyn Brif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, Llywodraeth Cymru.