Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs 2024

Ar Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dathlu gyda balchder y rolau a’r sgiliau amrywiol, y gofal arbenigol, cyflawniadau a chyfraniadau anhygoel nyrsys yng Nghymru ac o bell. 

Thema eleni yw 'grym economaidd gofal'. Bydd nyrsys o AaGIC yn rhannu eu barn ar beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw…

Lisa

Lisa Llewelyn
Cyfarwyddwr Nyrsio a Swyddfa Weithredol Addysg Proffesiynol Iechyd

"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrs, rydym yn rhoi ein sylw i rym economaidd hynod bwysig gofal tosturiol. Rydym yn rhoi ein sylw hefyd i sut mae ymroddiad nyrsys yn gymorth mawr i systemau gofal iechyd ac yn creu budd economaidd sylweddol. Mae gan nyrsys rhan ganolog a gwerthfawr yn ysgogi twf economaidd trwy ddarparu gwasanaethau gofal iechyd hanfodol, gan wella’r canlyniadau i’r claf. Maen nhw hefyd yn lleihau costau gofal iechyd, yn cyfrannu at iechyd y cyhoedd ac yn gwella cynhyrchiant y gweithlu. Mae ganddyn nhw hefyd effaith ddofn ar lesiant cyffredinol ein cymunedau yma yng Nghymru a ledled y byd."

Emma

Emma Davies
Nyrs Rheoli Rheoliadau a Safonau Proffesiynol ac Addysg Iechyd Proffesiynol

"Trwy fuddsoddi yng ngweithlu nyrsio presennol Cymru ac yn y dyfodol, rwy’n credu ein bod yn buddsoddi yn yr holl gymunedau ledled y wlad. Rydym hefyd yn buddsoddi yn llesiant cyffredinol ein cymdeithasau ac yn y pen draw, dyfodol economaidd mwy cynaliadwy a mwy disglair."

Jaimee

Jaimee Baines
Arweinydd Clinigol ar gyfer Nyrsio, Gofal Sylfaenol a Gofal Cymunedol Meddygol

"Nid buddsoddiad ariannol yw’r brif elfen i rym economaidd gofal, ond gall gwerthfawrogi a thrysori gwir ystyr y nyrs a’r pwerau sydd gennym fel proffesiwn, drawsnewid gofal yn llwyr yn glinigol ac yn economaidd i bawb."

Patricia

Patricia Mathias-Lloyd
Rheolwr Datblygu Addysg Nyrsys ac Addysg Proffesiynol Iechyd

"Ystyriwyd Florence Nightingale yn sant gan lawer am godi safonau nyrsio, addysgu gofalwyr, a newid persbectif y ffordd yr oedd nyrsys yn cael eu hystyried yn y proffesiwn gofal iechyd. Mae pŵer economaidd gofal yn golygu bod angen buddsoddiad arnom i barhau i werthfawrogi ei gwaith. Nid swydd yn unig yw nyrsio, mae'n fwy na hynny."

Emma

Emma Roberts
Hwylusydd Addysg Ymarfer Rhanbarthol - Nyrsys Gofal Sylfaenol Ac Addysg Proffesiynol Iechyd

"I mi, mae grym economaidd gofal yn golygu cydnabod rôl sylweddol y gweithlu nyrsio, o ran gwella llesiant y gymdeithas a sicrhau sefydlogrwydd economaidd. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn ymestyn y tu hwnt i ddim ond darparu triniaeth. Mae hefyd yn cwmpasu swyddogaethau hanfodol arddangos tosturi, meithrin datblygiad dynol, hybu undod cymdeithasol, a chyfrannu at gynnydd cynaliadwy."

Phedra

Phedra Dodds
Rheolwr Rhaglen Nyrsys Endosgopi Ac Addysg Proffesiynol Iechyd

"Mae nyrsio wedi datblygu a newid dros amser ac mae'n cael ei lunio orau gan y rhai sy'n gweithio yn y proffesiwn a'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan weithgareddau ei hymarferwyr. Mae buddsoddi mewn nyrsio yn golygu mwy o niferoedd, ond mae hefyd yn cydnabod ffyrdd newydd o wneud pethau a datblygu gyrfaoedd cyffrous a deniadol gydol oes."

Nicola

Nicola Lewis
Rheolwr Datblygu Strategol Cynllun Gweithlu Nyrsio, Addysg Proffesiynol Iechyd a Dylunio’r Gweithlu Nyrsio

"Gall grym economaidd gofal fod yn gyfle i ail-lunio delwedd nyrsio ar gyfer y dyfodol."

Christopher Williams
Rheolwr Datblygu Ymarfer Ymgynghorol  Nyrsio Uwch ac Addysg Proffesiynol Iechyd

"Mae gan bob un ohonom y gallu i ofalu, ond dim ond os bydd yna fuddsoddiad mewn nyrsys trwy eu hyfforddi, eu haddysgu a’u gwobrwyo y byddwn yn gweld grym gofal llawn. Bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at fuddion gwych trwy hybu iechyd, triniaeth, a boddhad swydd."

Gail

Gail Harries-Huntley
Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Trawsnewid y Gweithlu Nyrsio a Nyrsio Bydwreigiaeth ac Addysg Proffesiynol Iechyd

"Nid moethusrwydd yw gofal nyrsio o safon, ond yn hytrach mae'n elfen hanfodol i ddarparu gofal iechyd effeithiol ac yn gonglfaen cynhyrchiant economaidd."

Ellen

Ellen Edwards
Arweinydd Ymgysylltu ac Ymchwil Trawsnewid Digidol a Data

"Mae nyrsio yn fwy na gofal wyneb yn wyneb mewn ysbytai yn unig. Mae nyrsys yn dod â'u sgiliau i lawer o wahanol ddiwydiannau gan gynnwys addysg, menter a busnes. Mae cydnabod grym economaidd gofal yn golygu deall a gwerthfawrogi rôl hanfodol nyrsio a gofal. Mae hyn yn wir nid yn unig wrth gynnal iechyd a lles unigolion ond hefyd wrth ysgogi datblygiad economaidd a ffyniant ar lefel unigol a chymdeithasol."

Rachel

Rachel James
Cymrawd Hyfforddi Arweinyddiaeth Glinigol y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol

"Nid yw gwerth y gweithlu nyrsio i’w weld yn y nifer o feddyginiaethau IV rydych chi'n eu rhoi neu pa mor gyflym mae pawb yn cael eu golchi a'u gwisgo.

Rydym yn crio gyda'n cleifion ac yn sefyll yn gadarn fel eu hamddiffynwyr oherwydd ein bod yn gofalu, i mi dyma werth economaidd gofal nad oes modd ei weld."

Simon

Simon Cassidy
Pennaeth Profiad Lleoliadau a Gwella Addysg Proffesiynol Nyrsys a Iechyd

"O ddechreuad taith y proffesiwn nyrsio fel myfyriwr nyrsio, hyd at gofrestru a thu hwnt mae cymaint o gyfleoedd dysgu yn cael eu cynnig ar gyfer datblygiad proffesiynol personol ysbrydoledig. Yn yr un modd, mae’r ffordd yr ydym yn comisiynu rhaglenni nyrsio effeithiol sy’n cael eu hysgogi gan ansawdd yn hanfodol. Mae hyn yn wir nid yn unig ar gyfer gweithlu nyrsio cynaliadwy, ond er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sydd ar y gofrestr yn y dyfodol yn meddu ar y ddealltwriaeth angenrheidiol i ddiwallu anghenion disgwyliedig y poblogaethau y byddant yn eu gwasanaethu.  Ein Nyrsys ni. Ein Dyfodol ni."

Diane

Diane Powles
Nyrs Ymgynghorol Addysg Strategol ac Addysg Proffesiynol Iechyd

"Grym Economaidd Gofal yw “sicrhau buddion gofal i  bawb trwy fuddsoddi mewn gofal”.  Mae nyrsys yn ganolog i wella iechyd a bywydau ein cenedl."

Hollie

Hollie Power
Hwylusydd Addysgiadol Ymarfer Rhanbarthol – Addysg Proffesiynol Iechyd a Nyrsys Gofal Sylfaenol

"I mi, mae grym economaidd gofal yn ymgorffori rôl amhrisiadwy gofal tosturiol a chynorthwyol wrth feithrin unigolion, cryfhau cymunedau, a meithrin ymdeimlad o ymgysylltiad. Mae buddsoddi mewn gofal yn gwella llesiant unigolion ac yn hybu twf economaidd cynaliadwy trwy gymdeithas iachach."

Matthew

Matthew Brayford
Arweinydd Iechyd Meddwl a Rheolwr Rhaglen Olyniaeth y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol

"Mae nyrsys iechyd meddwl yn hanfodol i ddiogelwch cleifion mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae nyrsys iechyd meddwl yn treulio amser gwerthfawr gyda chleifion, yn cael cipolwg ar gymhlethdodau meddyliau a hwyliau pobl trwy ffurfio cysylltiadau. Pan nad oes digon o adnoddau gan nyrsys iechyd meddwl, maent yn mynd yn frysiog ac o dan bwysau. Gall amser pwysig gyda defnyddwyr gwasanaeth leihau o ran hyd ac ansawdd. Mae modd methu â sylwi ar arwyddion pwysig. Gall pobl deimlo nad oes gan nyrsys amser ar eu cyfer. Mae pobl sy'n dioddef yn teimlo'n llai abl i fod yn agored am sut maent yn teimlo. Gall pethau pwysig fynd heb eu dweud.

Yn y pen draw, pan nad oes gan nyrsys iechyd meddwl yr amser na’r gallu meddyliol i gysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, mae’r bobl sydd eu hangen fwyaf yn wynebu perygl uwch o niwed seicolegol a chorfforol, gan gynnwys perygl uwch o hunanladdiad. Mae a wnelo ‘grym economaidd gofal' â llawer mwy nag arian. Mae'n ymwneud â bywydau pobl. Mae'n ymwneud â chael yr amser a'r gallu i gysylltu â'r rhai sydd wir ei angen!"

HIlary

Hilary Ryan
Arweinydd Clinigol Meddygol Gofal Sylfaenol Brys

"Mae poblogaeth iachach yn ysgogi cymdeithas fwy cynhyrchiol a chadarnhaol. Mae blaenoriaethu iechyd i bawb yn galluogi cyfleoedd ac yn gwneud y gorau o gyfraniad o fewn ein cymunedau."

Rebecca

Rebecca Boore
Rheolwr Dylunio a Datblygu Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol Addysg Nyrsys a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

"Mae gan nyrsys rôl bwysig yn iechyd a lles y boblogaeth. Mae hyn i’w weld yn eu gwaith yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd, yn atal afiechyd a hybu iechyd. Mae gwella iechyd unigolion a’r boblogaeth yn hollbwysig i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella ac ymgorffori newidiadau cynaliadwy i iechyd a llesiant cyffredinol pobl. Mae nyrsys yn weithgar wrth fynd ar drywydd dilyn amcanion datblygu cynaliadwy sy'n hybu hawl pawb i fywyd iach!"

Jodi

Jodie Hill
Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ac Addysg Broffesiynol Iechyd

"Mae angen amser, parch a chyllid ar ofal."

Marie

Marie Button
Rheolwr Rhaglenni Addysg SCPHN - Addysg Nyrsys a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

"Mae gwerth sylweddol i rôl y nyrs wrth ofalu am a chynorthwyo unigolion, teuluoedd a chymunedau i atal afiechydon.

Mae’n rhaid i'r rôl fod yn ddeniadol o ran gyflog, buddion a chydbwysedd bywyd a gwaith, i ddenu unigolion gofalgar a phroffesiynol o safon uchel i ddiwallu anghenion cynyddol gymhleth y gymdeithas.

Bydd buddsoddiad strategol yn sicrhau bod nyrsys yn cael y gydnabyddiaeth, yr adnoddau a'r parch y maent yn eu haeddu. Yn hollbwysig hefyd, bydd yn gwneud y proffesiwn yn hynod ddeniadol unwaith eto."