Neidio i'r prif gynnwy

Deall y Fframwaith Gallu Digidol(DCF): Defnyddio technoleg

Yr erthygl hon yw’r pedwerydd rhan mewn cyfres chwe rhan yn archwilio’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF). Mae’r Fframwaith, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cynnwys chwe pharth ac offeryn hunanwerthuso. Mae'n cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth gydnabod pwysigrwydd technoleg ddigidol a nodi meysydd ar gyfer twf digidol.

Mae hybu sgiliau digidol wrth weithio mewn lleoliad gofal iechyd yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer datblygiad personol mewn byd cynyddol ddigidol ond hefyd ar gyfer gwella gofal cleifion. Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae'n hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol feithrin yr hyder a'r arbenigedd sydd eu hangen i'w integreiddio'n effeithiol i ymarfer.

Mae'r gyfres hon yn darparu archwiliad manwl o bob parth DCF, gan dynnu sylw at ei bwysigrwydd a'i effaith.

Mae'r parth Defnyddio Technoleg yn cynnwys tri is-barth:

  • Sgiliau Sylfaenol
  • Offer Digidol 
  • Cynhyrchiant

Mae'r parth hwn yn canolbwyntio ar y defnydd effeithiol o ddyfeisiau, cymwysiadau, meddalwedd a gwasanaethau priodol. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio technolegau newydd, datrys problemau technegol, a gwella cynhyrchiant drwy ddefnyddio offer digidol yn effeithiol.


Sgiliau Sylfaenol 

Mae'r is-barth Sgiliau Sylfaenol yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau digidol hanfodol.  Mae'n dechrau gyda dysgu sut i ddefnyddio dyfeisiau fel cyfrifiaduron, ffonau clyfar, a thabledi. Mae hyn yn helpu unigolion i ddatblygu o beidio â defnyddio unrhyw ddyfeisiau digidol, i lywio sawl dyfais yn hyderus i gynorthwyo eu rôl a'u dyheadau gyrfa. Mae deall hanfodion bod ar-lein hefyd yn hanfodol. Mae'n golygu cydnabod y cyfleoedd sydd ar gael a datblygu dealltwriaeth eang o'r sgiliau sydd eu hangen i ymgysylltu'n effeithiol mewn amgylcheddau digidol.

Mae gwybod sut i geisio cymorth ar gyfer materion technegol yn agwedd bwysig arall. I ddechrau, gall hyn olygu gofyn cwestiynau a cheisio cymorth gan eraill. Gydag amser, gall unigolion ddatblygu'r wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i ddehongli a datrys problemau'n annibynnol, sy'n gwella eu hyder.

Mae'r sgiliau sylfaenol hyn yn hanfodol ar gyfer llywio'r byd digidol, gan helpu unigolion i ddefnyddio technolegau digidol ar gyfer twf personol a phroffesiynol tra'n addasu i'r tirwedd ddigidol sy'n newid yn gyflym.


Offer Digidol

Mae'r is-barth Offer Digidol yn canolbwyntio ar ddefnyddio blaengaredd i wneud defnydd effeithiol o dechnolegau newydd. Er enghraifft, mae defnyddio technolegau newydd yn golygu symud o gyflwr o ddiffyg diddordeb i chwilio’n fwriadol ac integreiddio dyfeisiau, cymwysiadau, meddalwedd a gwasanaethau newydd i gynorthwyo ffyrdd o weithio. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i ymwneud personol i ddarparu arweiniad i eraill, gan sicrhau bod offer digidol yn cael eu defnyddio'n effeithiol gan bawb.

Mae datrys problemau yn agwedd bwysig arall, lle mae pobl yn dysgu datrys problemau technegol. Mae hyn yn dechrau gyda datrys problemau sylfaenol ac yn datblygu i'r gallu i awgrymu atebion a helpu eraill gyda'u problemau technegol. Mae'r sgiliau hyn yn angenrheidiol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y defnydd o offer digidol.

Mae deall cysyniadau cyfrifiadurol yn ymwneud â symud o wybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron i ddealltwriaeth ddyfnach o feysydd fel codio a rheoli data. Mae hyn yn cynnwys, lle bo'n briodol ac yn berthnasol, gwybod sut mae cyfrifiaduron yn gweithio, dysgu hanfodion rhaglennu, a deall sut i drin gwybodaeth. Mae cael y wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon yn helpu pobl i ddefnyddio technoleg yn fwy effeithiol ac yn hwyluso syniadau a ffyrdd newydd o weithio yn eu bywydau personol a phroffesiynol.

Ar y cyfan, mae'r is-barth Offer Digidol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cadw'n gyfoes gyda thechnolegau newydd, dysgu datrys problemau, a deall sut mae cyfrifiaduron yn gweithio. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i wneud y defnydd gorau o offer digidol ac annog dysgu ac arloesi parhaus.


Cynhyrchiant

Mae'r is-barth Cynhyrchiant yn canolbwyntio ar sut y gall technoleg ddigidol newid bywyd personol a phroffesiynol. Er enghraifft, mae deall effaith technoleg ddigidol yn golygu gweld sut mae offer digidol yn effeithio ar ein harferion bob dydd a'n harferion gwaith. Mae hyn yn dechrau gyda dibynnu ar eraill am arweiniad ac yn datblygu i arwain ymdrechion i gadw’n gyfoes â thechnoleg.

Mae gwerthuso offer yn faes pwysig arall, lle mae pobl yn dysgu dewis yr offer a'r technolegau gorau ar gyfer gwahanol dasgau. Mae hyn yn cynnwys addasu'r offer hyn i ddiwallu anghenion personol, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol i hybu cynhyrchiant.

Mae gweithio'n rhugl yn canolbwyntio ar y gallu i ddefnyddio cyfuniad o offer a thechnolegau digidol i gwblhau tasgau cymhleth. Mae'r set sgiliau hon yn cynnwys arwain a hybu’r defnydd o ddyfeisiau digidol, meddalwedd a chymwysiadau o fewn sefydliad, gan feithrin diwylliant o arloesi a gwella.

Ar y cyfan, mae'r is-barth Cynhyrchiant yn pwysleisio deall effaith technoleg ddigidol, dewis yr offer cywir, a gweithio'n ddi-dor ar draws sawl llwyfan. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl ac ysgogi llwyddiant mewn lleoliadau personol a phroffesiynol.


Eich cam nesaf

Gall dechrau datblygu eich sgiliau cyfathrebu ar-lein fod yn frawychus. 

Cam cyntaf gwych yw llenwi Offeryn Hunanasesu'r Fframwaith Gallu Gigidol (DCF).  

Bydd yr offeryn yn eich annog i ystyried eich sgiliau digidol presennol ac yn cyfeirio at adnoddau cryno i helpu i roi hwb i'ch datblygiad.   

Mae'n cymryd tua awr i lenwi’r Fframwaith, yr ydych yn gweithio drwyddo ar eich cyflymder eich hun, ar adeg sy'n gyfleus i chi. Bydd eich cynnydd yn cael ei arbed ar hyd y ffordd, fel y gallwch oedi a mynd yn ôl ato mor aml ag y mae angen.

Mae llawer o broffesiynau yn cydnabod y gweithgaredd hwn trwy ddarparu awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus ardystiedig (DPP) i'w lenwi. 

Ewch i wefan AaGIC i ddysgu rhagor.