Neidio i'r prif gynnwy

Deall y Fframwaith Gallu Digidol: Llythrennedd data

Yr erthygl hon yw'r pumed rhandaliad mewn cyfres chwe rhan sy'n archwilio'r Fframwaith Gallu Digidol (DCF). Mae’r Fframwaith, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cynnwys chwe pharth ac offeryn hunanwerthuso. Mae'n cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gydnabod pwysigrwydd technoleg ddigidol a nodi meysydd ar gyfer twf digidol.

Mae gwella sgiliau digidol wrth weithio mewn lleoliad gofal iechyd yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer datblygiad personol mewn byd sy'n gynyddol ddigidol ond hefyd ar gyfer gwella gofal cleifion. Wrth i dechnoleg esblygu, mae'n hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol feithrin yr hyder a'r arbenigedd sydd eu hangen i'w hintegreiddio'n effeithiol i ymarfer.

Mae'r gyfres hon yn darparu archwiliad manwl o bob parth DCF, gan dynnu sylw at ei bwysigrwydd a'i effaith.

Mae'r maes Llythrennedd Data yn cynnwys tri is-barth:

  • Darganfod data
  • Defnyddio data
  • Data i wybodaeth

Mae'r maes hwn yn canolbwyntio ar gasglu a deall data i gefnogi penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd gwybod beth yw data, sut i'w ganfod a'i ddehongli, a sicrhau ei ansawdd. Mae hefyd yn pwysleisio manteision defnyddio offer dadansoddi data i drawsnewid data yn wybodaeth.  Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer deall data a'i ddefnyddio i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol, gan helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus mewn byd cyfnewidiol.
 

Darganfod data

Mae is-barth Darganfod Data yn archwilio sgiliau allweddol wrth ddod o hyd i ddata a'i ddehongli, gan ddechrau gyda'r gallu i geisio cymorth i leoli a deall gwybodaeth. Dros amser, bydd unigolion yn meithrin y sgiliau i ddod o hyd i ddata o wahanol systemau a'i ddefnyddio'n annibynnol, ac yn y pen draw yn cefnogi eraill i wneud yr un peth.

Mae hyn yn cynnwys dysgu nodi problemau data, dod yn hyderus wrth wirio data a ddefnyddir yn gyffredin, ac yn y pen draw sicrhau bod data yn gywir, yn gyflawn, yn gyson, yn ddibynadwy, ac yn gyfredol.
 

Defnyddio data

Mae'r is-barth Defnyddio Data yn canolbwyntio ar sgiliau hanfodol ar gyfer casglu, trin a churadu data. Mae'n dechrau gyda deall dulliau ac offer ar gyfer casglu data, gan symud o ansicrwydd cychwynnol i gymhwyso technegau priodol yn hyderus. Dros amser, bydd unigolion yn gallu glanhau a threfnu data yn effeithiol, gan sicrhau ei fod yn ddarllenadwy ac yn ddefnyddiadwy.

Wrth i sgiliau ddatblygu, bydd unigolion yn dysgu sut i lanhau a threfnu data fel ei fod yn ddarllenadwy ac yn ddefnyddiadwy. Mae curadu data yn golygu ei baratoi a'i rannu mewn ffyrdd sy'n gyfreithlon ac yn foesegol. Wrth iddynt symud ymlaen, bydd unigolion yn gallu ychwanegu metadata, defnyddio arferion gorau, a rheoli setiau data yn hyderus.
 

Data i wybodaeth

Mae'r is-barth Data i Wybodaeth yn canolbwyntio ar drawsnewid data yn fewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt. Mae'n dechrau gyda dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd dadansoddi data fel Excel, Python, R, a Microsoft Power BI. Mae'r dilyniant hwn yn symud unigolion o ddechreuwyr i arbenigwyr, sy'n gallu dadansoddi, dehongli a helpu eraill gyda dadansoddi data.

Gan ddechrau gyda thablau, siartiau a graffiau sylfaenol, bydd unigolion yn symud ymlaen i greu delweddiadau effeithiol a chyfleu data yn effeithiol.

Mae'r daith hon yn helpu unigolion i ddeall sut y gall data gefnogi penderfyniadau, gan arwain at ddefnyddio data yn hyderus ar gyfer gwneud penderfyniadau a gwerthusiadau.
 

Eich cam nesaf

Gall dechrau datblygu eich sgiliau cyfathrebu ar-lein fod yn frawychus. 

Cam cyntaf gwych yw cwblhau offeryn hunanasesu’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF).  

Bydd yr offeryn yn eich annog i ystyried eich sgiliau digidol presennol ac mae yna hefyd adnoddau cryno ar gael i helpu i roi hwb i'ch datblygiad.   

Mae'n cymryd tua awr i gwblhau'r Fframwaith, a gallech gweithio drwyddo ar eich cyflymder eich hun, ar amser sy'n gyfleus i chi. Bydd eich cynnydd yn cael ei gadw ar hyd y ffordd, felly gallwch fynd yn ôl ato cyn amled ag sydd ei angen arnoch.

Mae llawer o broffesiynau yn cydnabod y gweithgaredd hwn trwy ddarparu awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus ardystiedig (DPP) i'w gwblhau. 

Ewch i wefan AaGIC i ddysgu mwy.