Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu enillwyr Gwobrau Fferylliaeth eleni

Bob blwyddyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal noson wobrwyo fferylliaeth sylfaen i ddathlu'r bobl sy'n helpu i ddatblygu'r maes pwysig hwn o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Anogwyd pobl i enwebu gweithwyr fferyllol proffesiynol sy'n ffitio i mewn i un o'r categorïau o fewn y gwobrau. Y categorïau oedd:

  • Gwobr Cyfraniad i Addysg a Hyfforddiant
  • Gwobr Fferyllydd Dan Hyfforddiant y Flwyddyn 2023
  • Cystadleuaeth Poster Archwilio Blynyddol

Enillwyd y wobr am gyfraniad i addysg a hyfforddiant gan Helen Davies a ddywedodd

Mae'n anrhydedd a dwi’n falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Bydd addysg a hyfforddiant bob amser yn angerdd i mi. Mae gwylio timau fferylliaeth yn tyfu ac yn cyrraedd eu potensial llawn yn wobr ynddo'i hun ac rwy'n ddiolchgar y gallaf helpu i hwyluso hynny. Mae fy nyled i fodelau rôl ysbrydoledig iawn o fewn addysg a hyfforddiant fferylliaeth sy'n fy helpu ac yn fy hyfforddi drwyddi draw. Diolch.

Enillwyd gwobr fferyllydd dan hyfforddiant y flwyddyn gan Samir Abdel Wahab. Ymgymerodd Samir â phrosiect archwilio rhagorol yn rhanbarth Bae Abertawe a dywedir ei fod yn weithiwr proffesiynol atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig. 

“Mae fy mhrofiad yn Rhaglen Fferyllydd Sylfaen Amlsector AaGIC wedi bod yn gyfle anhygoel ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Mae wedi fy arfogi â'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder angenrheidiol i gael effaith gadarnhaol yn y proffesiwn fferylliaeth a chyfrannu at les cleifion. Rwy'n ddiolchgar am y profiad cyfoethog hwn ac yn gyffrous am y dyfodol sydd o'n blaenau. “ Dywedodd Samir.

Enillwyd y gystadleuaeth poster Archwilio Blynyddol gan Owain Williams. Roedd cyflwyniad Owain ar Acne Vulgaris yn Rhanbarth Bae Abertawe yn gryno ac yn ymgysylltu ag argymhellion pendant i wella gofal cleifion.

Ar ei fuddugoliaeth dywedodd Owain

“Roedd deall y broses o gwblhau archwiliad wedi helpu i ddatblygu sgiliau sylfaenol y gallaf eu defnyddio yn fy ngyrfa fferylliaeth. Roedd cyflwyno fy mhrosiect yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad a dathlu, gan rannu'r effaith a gefais ar ymarfer a gofal cleifion. Roedd y profiad yn bleserus drwyddo draw, gan roi cyfle i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder.”

Dywedodd Bethan Broad, Arweinydd Gweithredol, Rhaglen Fferyllydd Sylfaen AaGIC, 'mae ein noson Wobrwyo Flynyddol yn gyfle hyfryd i ddathlu cyflawniadau ein hyfforddeion a'n holl randdeiliaid, sy'n gweithio ar y cyd i wneud y rhaglen yn llwyddiant. Roedd safon y prosiectau archwilio a gyflwynwyd yn uchel iawn ac mae Owain yn enillydd teilwng. Llongyfarchiadau i Helen a Samir (Enillydd Gwobr Cyfraniad i Addysg a Hyfforddiant a Fferyllydd Dan Hyfforddiant y Flwyddyn, yn y drefn honno) ar eu buddugoliaethau haeddiannol, maent yn glod i'w sefydliadau. '