Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Hawliau'r Gymraeg

Cyhoeddwyd 07/12/23
 

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o ddathlu Diwrnod Hawliau'r Gymraeg.

Cynhelir Diwrnod Hawliau'r Gymraeg yn flynyddol ym mis Rhagfyr ac mae'n cofio’r dyddiad y pasiwyd Mesur y Gymraeg gan y Senedd. Mae'r mesur yn cadarnhau y dylid trin y defnydd o'r Gymraeg yn gyfartal ac nid yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.

Fel y darparwr hyfforddiant gofal iechyd ar gyfer staff a byrddau iechyd ledled GIG Cymru, rydym yn cyflawni'r ymrwymiad hwn trwy gynnig yr holl gyrsiau, gwybodaeth, hyfforddiant a gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae pwysigrwydd y Gymraeg yn parhau i'n staff hefyd, gyda dros 60 o weithwyr yn dysgu siarad Cymraeg drwy wersi rhithiol yn wythnosol.

Dywed Huw Owen, Rheolwr y Gymraeg yn AaGIC:

"Er ei bod yn hawl sylfaenol i siaradwyr Cymraeg dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, mae ein darpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn AaGIC yn cael ei yrru gan nod llawer mwy penodol - rydym yn gwybod bod derbyn gwasanaeth yn iaith dewis y cleifion yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell. Mae rhai pobl ond yn gallu rhyngweithio gyda rhoddwyr gofal iechyd yn y Gymraeg - ac felly er mwyn derbyn y gofal iechyd mwyaf effeithiol, mae'n rhaid i ni allu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Dyma'r rheswm sylfaenol dros wneud pethau'n ddwyieithog - ac mae’r hawl  i dderbyn y gwasanaeth hwn yn dilyn yn naturiol yr angen sylfaenol hwnnw."

Er mwyn helpu i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, rydym yn cymryd rhan yn ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' a gynhelir rhwng 27 Tachwedd ac 11 Rhagfyr. Pwrpas yr ymgyrch hon yw tynnu sylw at bwysigrwydd y Gymraeg a hybu hyder pobl i'w defnyddio.

Dyma ychydig o ddechreuwyr sgwrsio i chi roi cynnig arnynt:

  • Bore da
  • Prynhawn da
  • Siwmae
  • Hywl

Mae mwy i ddod yn 2024...

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae darpariaeth gwasanaeth Cymraeg nid yn unig yn hawl neu'n ddewis, ond mae'n hanfodol i lawer o gleifion a defnyddwyr gwasanaeth Cymraeg eu hiaith.

Mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru, mae AaGIC yn edrych ymlaen at barhau â'n cefnogaeth i ymgyrch 'Mwy na Geiriau' Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cyrchu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt.