Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar gyfraddau llenwi hyfforddiant nyrsys cyn cofrestru

cyhoeddedig 20/09/2024

 

Mae'r ffigyrau cychwynnol yn nodi cyfradd llenwi gyffredinol yr Hydref ar gyfer hyfforddiant nyrsio cyn cofrestru yng Nghymru o 1,585 - cynnydd o 8.5%.

Er gwaethaf gostyngiad yn y niferoedd, mae'r gronfa o ymgeiswyr yn parhau i gefnogi recriwtio cryf. Mae ein ffigurau presennol – gyda chlirio yn dal i fod ar agor – yn dangos ein bod ar y trywydd iawn i gyfateb â ffigur recriwtio nyrsio oedolion yr hydref y llynedd o 1,023. Nid yw hyn yn cynnwys myfyrwyr sy'n symud ymlaen yn uniongyrchol i ail flwyddyn y rhaglenni, ar ôl cwblhau rhaglen gweithiwr cymorth gofal iechyd lefel pedwar.

Bydd 700 o leoedd pellach ar gael i’r rhai sy’n dymuno dechrau hyfforddi yng ngwanwyn 2025.

Mae cyfraddau llenwi cychwynnol ar gyfer nyrsio plant ar hyn o bryd yn 182, cynnydd dangosol o 11% ers yr hydref diwethaf, gyda nyrsio anabledd dysgu yn 56, sef cynnydd o 66%.

Ym maes nyrsio iechyd meddwl rydym wedi recriwtio 324 ar hyn o bryd, sef cynnydd o 37%.

Bydd y ffigurau terfynol ar gael unwaith y bydd y broses clirio a'r recriwtio yn cau ym mis Hydref.

Mae ein gweithlu nyrsio yn rhan hanfodol o GIG Cymru, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n Partneriaid Addysg Uwch i sicrhau'r recriwtio mwyaf posibl. Mae’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod unrhyw berson yng Nghymru sydd am fod yn Nyrs, ac sydd â’r gallu a’r gwerthoedd i wneud hynny, yn cael cymorth o ansawdd uchel i gael mynediad i raglen astudio. Rydym wedi bod yn arwain ar nifer o fentrau gan gynnwys:

  • Meithrin cysylltiadau â Cholegau Addysg Bellach i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr na lwyddodd yn anffodus i gyrraedd y pwyntiau tariff gofynnol neu nad oedd ganddynt, er enghraifft, y sgiliau a'r hyder i wneud cais am raglenni gradd nyrsio cyn cofrestru.  Dwy fenter sydd ar waith ar hyn o bryd yw “Healthcare Connect” a “Fasttrack to Nursing”.  O’r mentrau hyn rydym yn rhagweld y bydd 70 o fyfyrwyr yn ymuno â rhaglenni gradd yng ngwanwyn 2025. Rydym yn gweithio i ehangu’r rhain ledled Cymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y maent yn eu darparu.
  • Creu mwy o gyfleoedd gradd nyrsio rhan-amser, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, fel y gwelir yng ngwaith AaGIC gyda'r Brifysgol Agored.
  • Gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai ar “Raglen Darpar Nyrsys” a gynlluniwyd i ddarparu cyfleoedd i drigolion Powys hyfforddi a gwneud eu holl leoliadau ym Mhowys.
  • Hyrwyddo a marchnata'r maes nyrsio anableddau dysgu trwy gyflwyno llysgenhadon myfyrwyr
  • Darparu cyfleoedd i weithwyr cymorth mewn gwasanaethau iechyd meddwl ymgymryd â modiwlau annibynnol ar lefel 4. Mae'r rhain yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder iddynt ddarparu gofal o ansawdd uchel ac maent yn cyfrif tuag at flwyddyn gyntaf gradd nyrsio.