Mae Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol Gweithrediaeth GIG Cymru ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn cynnal digwyddiad i lansio’r Datganiad Ansawdd a Lansio’r Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol.
Gwahoddir timau amenedigol (Mamolaeth a Newyddenedigol) a rheolwyr ar bob lefel i fynychu. Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal dros y dyddiadau a'r rhanbarthau canlynol.
Digwyddiad: Datganiad Ansawdd a Lansio Fframwaith Ymgysylltiad Amenedigol
• 24/03/2025 - Gorllewin Cymru – Archebwch Yma!
• 26/03/2025 - Gogledd Cymru – Archebwch Yma!
• 27/03/2025 - De Cymru – Archebwch Yma!
Bydd y digwyddiadau yma yn lansio Datganiad Ansawdd a Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol Llywodraeth Cymru a bydd yn cynnwys diweddariadau cenedlaethol a'r Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol AaGIC a’r Manylion Gwasanaeth Strategol Rhwydwaith Mamolaeth a Newydd-enedigol.
Os gwnaethoch fynychu un o'r digwyddiadau uchod, cymerwch eiliad i lenwi ein ffurflen werthuso. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif DPP a hefyd yn cyfrannu at broses wella barhaus AaGIC. Gwerthfawrogir eich cyfranogiad yn fawr.
Gweler y dolenni isod i ddogfennau perthnasol os hoffech ddarllen ymhellach:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu â ni, cysylltwch â: heiw.perinatalworkforceplan@wales.nhs.uk
Diolch i chi am eich ymroddiad parhaus i lunio dyfodol gwasanaethau amenedigol.
Tîm Trawsnewid Nyrsio a Bydwreigiaeth AaGIC.