Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad AaGIC ynglŷn ag addysg nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd

Datganiad gan Ian Mathieson, Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid AaGIC.

Fel comisiynydd hyfforddiant nyrsys yng Nghymru, ein blaenoriaeth yw cynnal y ddarpariaeth o hyfforddiant o ansawdd uchel ledled Cymru.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau y bydd hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr presennol, a’r rheiny  sy'n cofrestru ym mis Medi 2025 yn parhau tan y byddant yn graddio.

Rydym yn trafod yn rhagweithiol yr opsiynau gyda rhanddeiliaid a phartneriaid amrywiol i sicrhau bod hyfforddiant nyrsys yn parhau yn ardal Caerdydd y tu hwnt i'r cyfnod hwn.

Gan fod y trafodaethau hyn yn parhau, nid ydym yn gallu darparu rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.